Mae Y Gwyll yn arwain y ffordd gyda phedwar enwebiad ar gyfer Gwobrau Bafta Cymru eleni.

Mae’r rhaglen ddrama ditectif wedi cael ei henwebu am wobrau ‘Drama Deledu Orau’, ‘Cyfarwyddwr: Ffuglen’ i Gareth Bryn, ‘Actores’ i Mali Harries ac ‘Actor’ i Richard Harrington, a enillodd y wobr y llynedd.

Mae dwy o ddramâu eraill S4C – y ddrama wleidyddol Byw Celwydd a’r gyfres 35 Diwrnod – yn cwblhau’r categori’r Ddrama Deledu Orau.
Mae sgwennwyr 35 Diwrnod, Siwan Jones a Wil Roberts, hefyd wedi eu henwebu yng nghategori Awdur ac mae’r ddrama ddirgelwch hefyd wedi ennill enwebiad yng nghategori ‘Cyfarwyddwr: Ffuglen’ i Lee Haven Jones.

Mae’r ffilm nodwedd Gymraeg Yr Ymadawiad wedi cael tri enwebiad. Mark Lewis Jones ar gyfer ‘Actor’, Tim Dickel ar gyfer ‘Dylunio Cynhyrchiad’ ac Ed Talfan ar gyfer ‘Awdur’.

Enwebwyd Aneurin Bernard am y wobr ‘Actor’ ar gyfer ei rôl fel Boris Drubetskoy yn y gyfres War and Peace, enwebwyd Phil John am y wobr ‘Cyfarwyddwr: Ffuglen’ ar gyfer Downton Abbey ac enwebwyd Catrin Meredydd am y wobr ‘Dylunio Cynhyrchiad’ ar gyfer Jekyll and Hyde.

Mae Sherlock wedi cael tri enwebiad: ‘Dylunio Cynhyrchiad’ i’r enillydd blaenorol Arwel Wyn Jones, ‘Effeithiau Arbennig, Gweledol a Sain’ a ‘Theitlau a Hunaniaeth Graffeg’.

Ffeithiol

Yn y categorïau ffeithiol, mae Tim Rhys Evans – All in the Mind wedi cael tri enwebiad, ar gyfer ‘Rhaglen Ddogfen Unigol’, ‘Golygu’ i Madoc Roberts, a ‘Ffotograffiaeth Ffeithiol’ i Mei Williams.

Enwebwyd The Brecon Beacons with Iolo Williams am y gwobrau ‘Cyfres Ffeithiol’, ‘Cyfarwyddwr: Ffeithiol’ i John Gwyn a ‘Chyflwynydd’ i Iolo Williams.

25 mlynedd

Mae Gwobrau Bafta Cymru’n dathlu 25 mlynedd eleni a bydd yn cael ei gynnal ar 2 Hydref 2016 yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.bafta.org

Rhestr Lawn Enwebeion

 

ACTOR (noddwyd gan AUDI)

ANEURIN BARNARD fel Boris Drubetskoy yn War and Peace

RICHARD HARRINGTON fel DCI Tom Mathias yn Hinterland/Y Gwyll

MARK LEWIS JONES fel Stanley yn Yr Ymadawiad

 

ACTORES (noddwyd gan HMV)

CATHERINE AYERS fel Angharad Wynne yn Byw Celwydd

MALI HARRIES fel DI Mared Rhys yn Hinterland/Y Gwyll

AMANDA MEALING fel Connie Beauchamp YN Casualty

RHAGLEN BLANT (yn cynnwys animeiddio)

DAD – Ffilmworks

#FI (Cyfres 3 / Pennod: Christian & Joe )- Elin Jones

Y GEMAU GWYLLT – Aled Mills

 

MATERION CYFOES

LIFE AFTER APRIL – Y Tîm Cynhyrchu

WALES THIS WEEK (Saying Goodbye to Mum) – y Tîm Cynhyrchu

Y BYD AR BEDWAR – Y Tîm Cynhyrchu

CYFARWYDDWR: FFEITHIOL (noddwyd gan Capital Law)

MOLLY-ANNA WOODS ar gyfer Swansea Sparkle: A Transgender Story

JOHN GWYN ar gyfer Iolo’s Brecon Beacons

VAUGHAN SIVELL – Mr Calzaghe

CYFARWYDDWR: FFUGLEN (noddwyd gan Champagne Taittinger)

GARETH BRYN ar gyfer Hinterland / Y Gwyll

LEE HAVEN JONES ar gyfer 35 Diwrnod

PHILIP JOHN ar gyfer Downton Abbey

 

GOLYGU (noddwyd gan Gorilla)

WILL OSWALD ar gyfer Doctor Who

GERAINT HUW REYNOLDS ar gyfer Swansea Sparkle: A Transgender Story

MADOC ROBERTS ar gyfer Tim Rhys-Evans: All in the Mind

 

RHAGLEN ADLONIANT (noddwyd gan Sugar Creative)

BRYN TERFEL BYWYD TRWY GAN – Y Tîm Cynhyrchu

DIM BYD – Cwmni Da

LES MISERABLES Y DAITH I’R LLWYFAN – Hefin Owen

 

CYFRES FFEITHIOL (noddwyd gan Maes Awyr Cymru Caerdydd)

COAST – Y Tîm Cynhyrchu

IOLO’S BRECON BEACONS – John Gwyn

MUSIC FOR MISFITS: THE STORY OF INDIE – Siobhan Logue

 

DARLLEDIAD BYW AWYR AGORED

CÔR CYMRU –Y ROWND DERFYNOL – Y Tîm Cynhyrchu

MANIC STREET PREACHERS  LIVE AT CARDIFF CASTLE – Y Tîm Cynhyrchu

Y SIOE – Y Tîm Cynhyrchu

DARLLEDIADAU’R NEWYDDION (noddwyd gan Working Word)

ARGYFWNG Y MUDWYR – Y Tîm Cynhyrchu

ELECTION WALES 2015 – Y Tîm Cynhyrchu

WALES AT SIX (Organ Donation) – Y Tîm Cynhyrchu

 

FFOTOGRAFFIAETH FFEITHIOL (noddwyd gan Westy a Spa Dewi Sant)

ALED JENKINS ar gyfer Patagonia with Huw Edwards

LUKE PAVEY ar gyfer The River Taff with Will Millard / The Taff – the River That Made Wales

MEI WILLIAMS ar gyfer Tim Rhys-Evans: All in the Mind

 

CYFLWYNYDD (noddwyd gan Deloitte)

WILL MILLARD ar gyfer Hunters of the South Seas

GRIFF RHYS JONES ar gyfer Griff’s Great Britain

IOLO WILLIAMS ar gyfer Iolo’s Brecon Beacons

 

DYLUNIO CYNHYRCHIAD (noddwyd gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru)

TIM DICKEL ar gyfer Yr Ymadawiad

CATRIN MEREDYDD ar gyfer Jekyll and Hyde

ARWEL WYN JONES ar gyfer Sherlock

 

FFILM FER (noddwyd gan Brifysgol De Cymru)

MY BRIEF ETERNITY: AR AWYR LE – Clare Sturges

ONLY CHILD – Andrew Toovey

SPOILERS – Grant Vidgen

 

RHAGLEN DDOGFEN UNIGOL (noddwyd gan Brifysgol Aberystwyth)

PATAGONIA ERIC JONES AC lOAN DOYLE – Y Tîm Cynhyrchu

SWANSEA SPARKLE: A TRANSGENDER STORY – Molly-Anna Woods

TIM RHYS-EVANS: ALL IN THE MIND – Y Tîm Cynhyrchu

 

SAIN (noddwyd gan AB Acoustics)

Y Tîm Cynhyrchu – LADY CHATTERLEY’S LOVER

Y Tîm Cynhyrchu – MR CALZAGHE

Y Tîm Cynhyrchu – SHERLOCK

 

EFFEITHIAU ARBENNIG A GWELEDOL, TEITLAU A HUNANIAETH GRAFFEG (noddwyd gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant)

Y Tîm Cynhyrchu – DOCTOR WHO, THE MAGICIAN’S APPRENTICE

Y Tîm Cynhyrchu – SFA Y BLYNYDDOEDD BLEWOG

Y Tîm Cynhyrchu – SHERLOCK

 

DRAMA DELEDU (noddwyd gan Pinewood)

35 DIWRNOD – Y Tîm Cynhyrchu

BYW CELWYDD – Branwen Cennard

HINTERLAND/Y GWYLL – Y Tîm Cynhyrchu

 

AWDUR (noddwyd gan Ethos)

SIWAN JONES a WILL ROBERTS ar gyfer 35 Diwrnod

CRAIG ROBERTS ar gyfer Just Jim

ED TALFAN ar gyfer Yr Ymadawiad