Shelim Hussein, a oedd wedi sefydlu'r cwmni Kukd.com, yng Nghwmbrân. Llun: Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei bod yn ymchwilio i honiadau yn erbyn cwmni sydd wedi cael £1 miliwn o arian cyhoeddus.
Cafodd Kukd.com £1m gan y llywodraeth mewn cyllid nad sy’n bosib ei ad-dalu pan wnaeth gyrraedd ei darged gwreiddiol o greu 100 o swyddi ym mis Awst 2015.
Mae’r ymchwiliad wedi dechrau ar ôl i’r swyddi hynny gael eu had-leoli i Fangladesh ac India, ac mae’r Llywodraeth wedi dweud na fydd y cwmni yn cael unrhyw daliadau pellach tan i’r ymchwiliad ddod i ben.
“Mae ein Huned Archwilio Mewnol a Gwrth-Dwyll yn ymchwilio i honiadau yn erbyn Kukd.com ac wedi bod mewn cyswllt â’r cwmni i gasglu rhagor o wybodaeth,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Tra nad oes unrhyw ddrygau wedi dod i’r amlwg hyd yn hyn, ni fydd rhagor o daliadau yn cael eu gwneud tan i’r mater hwn gael ei ddatrys.”
Cafodd y cwmni o Gwmbrân, sy’n caniatáu i bobol archebu prydau parod ar-lein ac archebu bwrdd mewn bwyty, ei sefydlu yn 2015 gan y dyn busnes o Gasnewydd, Shelim Hussain.
Mae Golwg360 wedi gofyn i Kukd.com am ymateb i’r honiadau yn ei erbyn.