Mae West Brom wedi arwyddo Hal Robson-Kanu yn rhad ac am ddim ar gytundeb dwy flynedd, gyda’r opsiwn o ymestyn am drydedd flwyddyn.

Roedd ymosodwr Cymru heb glwb ar ôl penderfynu gadael Reading ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Roedd e wedi cael ei gysylltu â nifer o glybiau yn Lloegr a thramor, ond mae’r trosglwyddiad yn golygu ei fod yn ymuno â’i gydwladwr Tony Pulis, rheolwr West Brom.

Cafodd Robson-Kanu ganiatâd i adael gwesty carfan Cymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Moldofa nos Lun.

Roedd rheolwr Cymru, Chris Coleman wedi awgrymu’r wythnos diwethaf ei fod yn barod i ollwng Robson-Kanu o’r garfan pe na bai’n dod o hyd i glwb newydd.

‘Penderfyniad pwysig’

Yn dilyn cadarnhad o’i drosglwyddiad, dywedodd Robson-Kanu ei fod e wedi gwneud “penderfyniad pwysig i fi a fy nheulu”.

Ychwanegodd: “Ond mae’n glwb ffantastig ac rwy wrth fy modd o gael bod yma.

“Dw i’n arbennig o falch o fod yn ôl yn yr Uwch Gynghrair. Dw i’n ddiolchgar am bopeth mae Reading wedi gwneud drosta i ac fe wnes i fwynhau fy amser yno.

“Ond mae’n grêt cael cymryd y cam hwn.”

Dywedodd Robson-Kanu fod ei gydwladwr James Chester, sydd newydd symud i Aston Villa o West Brom, yn allweddol yn ei benderfyniad i fynd i West Brom.

“Mae’n dda cael rhywun sy’n gwybod am glwb newydd i ddweud wrthoch chi amdano fe ac roedd James yn clodfori Albion.

“Does gyda fi ddim amheuon am fy ffitrwydd. Dw i’n foi ffit a bydda i’n hyderus iawn pan ddaw’r alwad.”

Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen at chwarae ei ran yng ngharfan West Brom.

Ar ei dudalen Twitter, ychwanegodd: “Wrth fy modd o gael arwyddo i @WBA. Mae wedi bod yn haf anhygoel ac yn edrych ymlaen at chwarae yn y @premierleague eto!”