Fe fydd S4C yn dangos uchafbwyntiau o bob un o gemau tîm pêl-droed Cymru wrth iddyn nhw geisio cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Rwsia yn 2018.

Yn dilyn ymgyrch lwyddiannus yn Ewro 2016 yn Ffrainc, fe fydd y bwrlwm yn parhau wrth i Gymru geisio cyrraedd y rowndiau terfynol am y tro cyntaf ers 1958.

Bydd y gêm gyntaf yn erbyn Moldofa yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Lun, Medi 5, a’r uchafbwyntiau’n cael eu dangos ar S4C am 10.30 y noson honno.

Bydd y gêm yn fyw ar SKY Sports ac uchafbwyntiau ar gael yn Saesneg ar ITV.

Tîm ‘Sgorio’ fydd yn cyflwyno’r arlwy ar S4C, sef Dylan Ebenezer, Nic Parri a Malcolm Allen.

Mae S4C ar gael ar Freeview yng Nghymru, ac ar Sky, Freesat a Virgin yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Mae lluniau HD ar gael ar Sky a Freesat. Bydd yr uchafbwyntiau hefyd ar gael ar alw ar-lein ar s4c.cymru, BBC iPlayer, YouView a phlatfformau eraill.

Dywedodd Golygydd Chwaraeon S4C, Sue Butler: “Bu’r haf yma yn un bythgofiadwy ar S4C, diolch i lwyddiant y tîm yn UEFA EURO 2016.

“Ry’ ni wrth ein boddau ein bod ni yn gallu dilyn y tîm ar y daith yr holl ffordd at Cwpan y Byd FIFA 2018. Rydym yn edrych ymlaen at roi sylw llawn a thrylwyr i bob gêm, ac yn falch iawn fod y gemau ar gael i gefnogwyr yn yr iaith Gymraeg.”

Wrth drafod cystadleuaeth UEFA EURO 2016, fe bwysleisiodd Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes, bwysigrwydd sylwebaeth pêl-droed iaith Gymraeg, gan ddweud fod “sylwebaeth yn y Gymraeg ar S4C yn hollbwysig,” i bêl-droed yng Nghymru.

Yn ystod yr ymgyrch, bydd Cymru’n erio Awstria, Georgia, Gweriniaeth Iwerddon a Serbia yng Ngrŵp D.