Gareth Clubb, Prif Weithredwr newydd Plaid Cymru, Llun: LinkedIn
Mae Golwg360 wedi cael cadarnhad mai Gareth Clubb yw Prif Weithredwr newydd Plaid Cymru.

Mae disgwyl i Gyfarwyddwr presennol Cyfeillion y Ddaear Cymru ddechrau yn ei swydd newydd ar 21 Medi, tua mis cyn Cynhadledd Flynyddol y blaid yn Llangollen.

Bu’n Gyfarwyddwr i Gyfeillion y Ddaear yng Nghymru ers 2011, a chyn hynny bu’n Gyfarwyddwr i Gymdeithas Eryri.

Mae hefyd wedi cael profiad fel ymgynghorydd yn swyddfa materion pysgodfeydd a glan môr y Comisiwn Ewropeaidd, ac fel Uwch Swyddog Ymchwil yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Pleidleisiau Gwyrdd?

Er ei brofiad o fewn y sector amgylcheddol yng Nghymru, dydy Gareth Clubb ddim yn credu ei fod wedi cael ei benodi i “swyno pleidleiswyr” y Blaid Werdd.

“Nid rôl polisi yn benodol yw’r rôl yma ond dwi’n meddwl bod y Blaid eisoes yn blaid sydd â pholisïau amgylcheddol cryf,” meddai wrth Golwg360.

“Dwi ddim yn meddwl mod i wedi cael fy mhenodi i swyno pleidleiswyr ar sail yr amgylchedd, mae gen i brofiad o arwain sefydliadau ac mae gen i brofiad o weithio yn y Cynulliad yn Ewrop, yn Whitehall fel gwas sifil ac yn y Cynulliad Cenedlaethol.”

Sicrhau bod ‘llais Plaid Cymru yn cael ei glywed’

Ei nod, meddai, yw sicrhau bod “llais Plaid Cymru yn cael ei glywed” mewn oes lle “nad oes gan Gymru digon o blwraliaeth newyddion.”

Dywedodd fod hynny’n golygu “symud fwyfwy tuag at y cyfryngau digidol” a “defnyddio’r technegau mwyaf diweddar” wrth ymgyrchu.

“Mae ‘na sawl her sy’n wynebu Cymru’n gyffredinol, a’r Blaid yn benodol,” ychwanegodd.

“Rydyn ni wedi gweld twf UKIP, canlyniad y refferendwm, rhaniadau cymunedol, cynnydd mewn trais ar sail hil ac yn gefnlen i’r cyfan does dim llawer o sefydliadau newyddiadurol Cymreig na Chymraeg gennym ni yng Nghymru.”

“(Mae’n) mynd i fod yn anodd i unrhyw sefydliad Cymreig sicrhau bod y neges yn treiddio pan fo llawer iawn o newyddion o Lundain yn cael eu llyncu yma yng Nghymru.”

Etholiadau lleol – mwy o ymgeiswyr

Yr her benodol nesaf i’r Blaid fydd etholiadau lleol Cymru yn 2017, ac mae Gareth Clubb am weld mwy o ymgeiswyr Plaid Cymru yn yr etholiadau hynny “nag erioed o’r blaen.”

Y brif nod arall wrth gwrs, yw “llwyddo i ennill y mwyaf o seddi nag ydyn (Plaid Cymru) wedi dal yn y gorffennol.”

Mae’n edrych ymlaen at yr her meddai fel un sydd “ddim yn ymwybodol o gyfundrefnau mewnol y blaid” eto.

“Mae’r cyfan yn mynd i fod yn syrpreis hyfryd dwi’n siŵr pan fydda’ i yn cerdded drwy’r drws ar 21 Medi.”

‘Profiad helaeth’

Dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru Alun Ffred Jones: “Rydym yn hynod falch o fod wedi apwyntio Gareth yn Brif Weithredwr newydd y Blaid.

“Bydd yn medru defnyddio ei brofiad helaeth o amryw o rolau i gefnogi a datblygu tîm staff deinamig Plaid Cymru.”