Bad Achub Aberystwyth
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau bod un o’r dynion a gafodd eu hachub o’r môr ar ôl mynd i drafferthion  yn harbwr Aberystwyth, wedi marw.

Mae’r ail ddyn mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Cafodd y ddau ddyn eu hachub o’r môr yn Aberystwyth ar ôl mynd i drafferthion tua 9:30yb ddydd Mercher. Roedd yn dilyn adroddiadau bod cwch cyflym wedi’i weld yn yr harbwr a neb wrth y llyw, a bod dau berson yn y dŵr.

Roedd y ddau ddyn tua 500 medr o’r harbwr pan gawson nhw eu hachub gan fad achub yr RNLI.

Cafodd y ddau ddyn eu cludo i Ysbyty Bronglais yn y dref. Roedd un o’r dynion yn ddifrifol wael a bu farw’n ddiweddarach.

Mae teulu’r dyn yn cael cefnogaeth swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Dywedodd gwylwyr y glannau bod bad achub arall wedi cael ei anfon i ddod a’r cwch o dan reolaeth a’i ddychwelyd i’r marina.