Bad Achub Aberystwyth
Mae dau ddyn wedi cael eu hachub o’r môr yn Aberystwyth gan fad achub ar ôl mynd i drafferthion y bore ‘ma.

Cafodd bad achub ei lansio tua 9:30yb ddydd Mercher yn dilyn adroddiadau bod cwch cyflym wedi’i weld yn yr harbwr a neb wrth y llyw, a bod dau berson yn y dŵr.

Roedd y ddau ddyn tua 500 medr o’r harbwr pan gawson nhw eu hachub gan yr RNLI.

Mae’r ddau bellach wedi cael eu cludo i Ysbyty Bronglais yn y dref, ac mae’n debyg bod un yn ddifrifol wael.

Dywedodd gwylwyr y glannau bod bad achub arall wedi cael ei anfon i ddod a’r cwch o dan reolaeth a’i ddychwelyd i’r marina.