Owen Smith Llun: Andrew Matthews/PA Wire
Mae’r unig ymgeisydd sydd yn y ras i fod yn arweinydd nesaf y Blaid Lafur wedi dweud na fyddai’n gwrthwynebu cael ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban.

Dywedodd Owen Smith, AS Pontypridd, na ddylid cynnal refferendwm arall, ond fod hynny’n fater i bobol yr Alban.

Ychwanegodd fod rhai o’r addewidion a gafodd eu gwneud gan yr ymgyrch Better Together yn 2014 yn “amodol ar y Blaid Lafur mewn grym.”

Fe wnaeth Owen Smith, sy’n gobeithio disodli Jeremy Corbyn fel arweinydd y blaid, alw am refferendwm arall ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd hefyd, am fod yr ymgyrch Gadael wedi “dweud celwydd.”

Wrth siarad ar raglen Good Morning Scotland ar BBC Radio Scotland am ail refferendwm dros annibyniaeth i’r Alban, dywedodd mai penderfyniad pobol yr Alban fyddai hynny.

“Os byddai pobol yr Alban yn dewis mai dyna’r hyn maen nhw am weld a bod cytundeb yn y Blaid Lafur, yna byddai hynny iddyn nhw i benderfynu,” meddai.

“Penderfyniad yr SNP fyddai rhoi hynny i bobol yr Alban. Dewis pobol yr Alban fyddai penderfynu’r hyn maen nhw ei eisiau,” meddai, ar ôl dweud na fyddai “wrth gwrs”  yn gwrthwynebu ail refferendwm.

“Gwrthblaid dragwyddol” dan Corbyn

Fe wnaeth y rhaglen nodi rhestr o addewidion a gafodd eu gwneud gan yr ymgyrch Better Together, a oedd yn cynnwys parhau’n aelod o’r UE, economi  a phensiynau diogel.

“Roedd yr addewidion hynny i gyd yn amodol ar Lafur mewn grym a dyw Llafur ddim mewn grym,” meddai Owen Smith.

Dywedodd y byddai Llafur yn gallu cyflawni’r addewidion hyn pe bai mewn grym ond ei fod yn poeni y byddai Jeremy Corbyn yn eu gadael fel “gwrthblaid dragwyddol.”

‘Celwydd’ refferendwm Ewrop

Ychwanegodd y dylai fod refferendwm arall ar yr Undeb Ewropeaidd, os yw Brexit yn golygu bod pobol ar eu colled.

“Os yw pobol Prydain, a phobol yr Alban, yn gweld eu bod ar eu colled yn yr hir dymor o ganlyniad i’r penderfyniad hwnnw, gallan nhw ddewis i newid eu meddwl.

“Cawsom ar ddeall y byddai £350 miliwn ychwanegol yr wythnos ar gael i’r Gwasanaeth Iechyd a bod atebion syml i broblemau ynghylch mewnfudo.

“Mae hynny i gyd yn gelwydd llwyr.”