Arthur David Hill, (Llun: Heddlu Dyfed Powys)
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth am ddyn 62 oed sydd ar goll o ardal Llandysul.
Cafodd Arthur David Hill o ardal Rhos ger Llandysul ei weld diwethaf dydd Gwener, Awst 26.
Mae lle i gredu ei fod wedi teithio yn ei gar, Nissan Note CV14 GVO coch.
Mae’n ddyn gwyn, 6’4” o daldra gyda gwallt wedi’i eillio.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am ei leoliad gysylltu â’r heddlu ar 101.