Carwyn Jones Llun: PA
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “ddiffyg gweithredu a syniadau” yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog ar flaenoriaethau’r llywodraeth yn wyneb Brexit.

Yn ôl y blaid, mae Carwyn Jones wedi ymateb yn “rhy hwyr” ac mae Llywodraeth Cymru yn “sych o syniadau.”

Heddiw, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog mai sicrhau buddsoddiad yn economi Cymru yw ei brif flaenoriaeth wrth lywio’r cwch ar ôl i Gymru adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae hyn yn cynnwys sicrhau nad yw Cymru’n cael ei “gwthio o’r neilltu” mewn trafodaethau Brexit, cael sicrwydd y bydd Cymru’n dal i gael mynediad i’r Farchnad Sengl a phenodi tîm o weision sifil o Gymru i drafod â’r Undeb Ewropeaidd.

Fe ddywedodd Carwyn Jones hefyd y byddai’r Llywodraeth yn codi hyder byd busnes yn wyneb canlyniad y refferendwm, gan gynnwys lleihau ardrethi busnes i fusnesau bach.

Ond mae hyn yn rhywbeth mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw amdano ers pum mlynedd, meddai llefarydd.

“Mae ymateb rhy hwyr Carwyn hyd yn hyn wedi cael ei ddiffinio gan ddiffyg blaengarwch a diffyg syniadau – ac mae’r cyhoeddiad hwn yn fwy o dystiolaeth o hynny,” meddai.

“Er enghraifft, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am fargen decach ar gyfraddau busnes ers y pum mlynedd ddiwethaf, a dim ond nawr y mae Llywodraeth Llafur Cymru yn delio â hyn.”

Beirniadu taith America

Bydd Carwyn Jones yn teithio i’r Unol Daleithiau wythnos nesaf i hyrwyddo cynnyrch Cymru i’r Americanwyr.

Fe wnaeth e gyfaddef yng nghynhadledd y wasg heddiw, nad yw’n sicr beth fydd yn wynebu Cymru ar ôl iddi droi cefn ar Ewrop, ac mae hynny wedi ennyn beirniadaeth eto.

“Tra ein bod yn croesawu ymdrechion i hyrwyddo busnes Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, dyw’r Prif Weinidog heb ragweld sut le fydd Cymru yn dilyn Brexit, felly mae’n codi cwestiwn ynghylch pa fath o neges fydd yn ei rhoi ar ei daith i America,” ychwanegodd y llefarydd.

“Nawr yn fwy nag erioed, mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos arweinyddiaeth gref a hyder yn y ffordd y mae’n bwriadu mynd â Chymru ymlaen drwy gyfnod o gyfle.”