Llys y Goron Birmingham
Fe fydd cyn-bencampwraig rhedeg mynydd o Bowys yn wynebu achos llys fis nesaf ar gyhuddiad o geisio llofruddio.

Fe ymddangosodd Lauren Jeska, 41, o Deras Wesley, Machynlleth gerbron Llys y Goron Birmingham drwy gyswllt fideo heddiw. Nid oedd yn rhaid iddi gyflwyno ple.

Cafodd Jeska, ei chyhuddo ym mis Mawrth o geisio llofruddio Ralph Knibbs  yn Stadiwm Alexander ym Mirmingham.

Cafodd Heddlu West Midlands eu galw i’r stadiwm am tua 10.30yb ar 22 Mawrth yn dilyn adroddiadau bod dyn 51 oed wedi cael ei drywanu.

Mae Jeska hefyd wedi’i chyhuddo o ddau gyhuddiad arall o anafu gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol i ddau ddyn arall, ac o fod â thair cyllell yn ei meddiant mewn man cyhoeddus.

Mae disgwyl i’r achos yn ei herbyn ddechrau ar 22 Medi.