Carwyn Jones Llun: Y Blaid Lafur
Prif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn wyneb canlyniad Brexit fydd sicrhau buddsoddiad yn economi Cymru, meddai’r Prif Weinidog heddiw.

Er gwaethaf beirniadaeth y gwrthbleidiau, roedd Carwyn Jones yn mynnu na fyddai Cymru’n cael ei “gwthio o’r neilltu” mewn trafodaethau ynglŷn â sut fydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd hefyd y bydd y Llywodraeth yn gwella “gwasanaethau cyhoeddus hanfodol” dros y pum mlynedd nesaf.

Mae Carwyn Jones a’i lywodraeth wedi cael eu beirniadu yn ddiweddar am “laesu dwylo” yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mewn cynhadledd i’r wasg, dywedodd y Prif Weinidog na fyddai ei flaenoriaethau yn cael ei hepgor o achos Brexit ond eu bod yn “bwysig ystyried ein hymrwymiadau a’n cynnydd yng nghyd-destun canlyniad y refferendwm.”

‘Pwysigrwydd’ y Farchnad Sengl

 

Wrth gyfeirio at chwe blaenoriaeth brys Llywodraeth Cymru yn dilyn Brexit, pwysleisiodd fod cadw mynediad Cymru i’r Farchnad Sengl yn “ganolog” i’w waith.

“Rydym wedi sicrhau nad yw’r cynnydd ar ein blaenoriaethau wedi’i atal gan y bleidlais Brexit – ond mae’n bwysig, wrth gwrs, ein bod yn ystyried ein hymrwymiadau a’n cynnydd yng nghyd-destun canlyniad y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd,” meddai Carwyn Jones.

“Mae Cymru yn chwarae rhan lawn a gweithredol yn y trafodaethau, ac yr wyf yn ei gwneud yn glir i’r Prif Weinidog fod yn rhaid i’r mynediad hwn barhau.”

Cyhoeddodd cynllun i godi hyder byd busnes yn dilyn pleidlais y refferendwm, gan nodi hefyd bod y Llywodraeth am gael sicrwydd y bydd cyllid rhaglenni Ewropeaidd Cymru yn para tan 2023.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi penodi tîm o weision sifil i gynrychioli Cymru mewn trafodaethau â’r Undeb Ewropeaidd.

“Er bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr UE, wnaethon ni ddim pleidleisio i gael ein gwthio o’r neilltu – a rhaid inni beidio â cholli ceiniog o’r arian ry’n ni’n ei dderbyn ar hyn o bryd,” ychwanegodd.

 

Cymru ac America

Bydd Carwyn Jones yn teithio i America’r wythnos nesaf i geisio gwerthu cynnyrch Cymru i’r wlad, gan ddweud ei fod yn bwysig bod buddsoddwyr newydd yn “gwybod lle maen nhw’n sefyll.”