Mae darpar dad yng nghyfraith Gareth Bale wedi’i ddedfrydu i chwe blynedd o garchar gan lys yn yr Unol Daleithiau.

Clywodd y llys yn Buffalo, Efrog Newydd fod Martin Rhys-Jones, 52 oed, wedi bod yn rhan o dwyll gwerth miliynau o bunnoedd, gyda thua 250 o bobol wedi’u twyllo.

Ac yn gynharach eleni, fe wnaeth y gŵr o Gaerdydd gyfaddef iddo fod ynghlwm â gwyngalchu arian mewn twyll cyfranddaliadau gwerth $2.9m.

Mae’n debyg fod gwerthwyr yn gweithio iddo yn Barcelona wedi dylanwadu ar fuddsoddwyr i brynu cyfranddaliadau oedd werth dim, a hynny am brisiau â chwyddiant mawr.

Cefndir

Cafodd Martin Rhys-Jones ei erlyn yn America am i gyfran o’r arian fynd drwy gyfrif yn Efrog Newydd cyn cael ei symud dramor.

Mae’n debyg ei fod wedi symud o Gaerdydd i Barcelona yn 2005, a bu mewn carchar yn Sbaen rhwng mis Mai 2012 a Mawrth 2013, cyn cael ei estraddodi i garchar yn America.

Mae eisoes wedi treulio dros bedair blynedd dan glo.

Mae Martin Rhys-Jones yn dad i bump ac yn eu plith, Emma Rhys-Jones, sydd wedi dyweddïo â Gareth Bale a chanddynt ddau o blant.