Carwyn Jones (Llun: Flickr/Cynulliad Cymru)
Ar ei ganfed diwrnod yn y swydd ers cael ei ail-ethol yn Brif Weinidog Cymru, bydd Carwyn Jones yn nodi ei flaenoriaethau dros y pum mlynedd nesaf.

Yn wyneb canlyniad Brexit ym mis Mehefin, mae disgwyl i’r Prif Weinidog amlinellu cynllun Llywodraeth Cymru dros Gymru yng nghyd-destun y trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Gyda’r Llywodraeth newydd yn weithredol ers 100 diwrnod bellach, bydd Carwyn Jones hefyd yn nodi’r hyn mae ei gabinet wedi’i gyflawni hyd yn hyn.

Roedd disgwyl iddo gyhoeddi blaenoriaethau ei lywodraeth ym mis Gorffennaf, ond dywedodd y byddai’n rhaid eu hail-ystyried ar ôl i Brydain benderfynu gadael Ewrop.

‘Llaesu dwylo’

Mae’r gwrthbleidiau wedi ei gyhuddo o laesu dwylo yn dilyn Brexit ar ôl i’r Prif Weinidog gyfaddef mai dim ond un sgwrs ffôn y mae wedi ei chael gydag un o’r tri gweinidog yn San Steffan sy’n gyfrifol am y maes.

Mae Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, wedi dadlau y gall Brexit fod yn “gyfle am fwy o rym i Gymru” hefyd.