(llun o wefan Rheiffordd Ucheldir Eryri)
Mae ymchwil wedi dangos fod Gwynedd yn agos i’r brig trwy wledydd Prydain o ran y niferoedd o orsafoedd rheilffordd yno i bob pen o’r boblogaeth.

Ceir gorsaf i bob 4,551 o drigolion yng Ngwynedd, gyda dim ond Ucheldiroedd yr Alban, gydag un i bob 3,968 o drigolion, a Dinas Llundain, gydag un i bob 1,460 o drigolion, yn gwneud yn well.

Mae’r ffigurau hyn yn cymharu ag un orsaf i bob 342,627 yng Nghaerlŷr, y ddinas sy’n gwneud waethaf yn yr arolwg.

Dim ond un orsaf sydd  yn y ddinas ers yr 1960au, tra bod gan Gaerdydd, dinas gyda phoblogaeth debyg, fwy na dwsin o orsafoedd.

Yn Lloegr y mae’r holl ddinasoedd sydd â’r nifer lleiaf o orsafoedd yn ôl y pen o’r boblogaeth.

Fe wnaeth yr ymchwil gan y Press Association.