Gary Jones (llun gan Heddlu Gwent)
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth i helpu cael hyd i ddyn 53 oed o ardal Llanmartin yng Nghasnewydd.
Cafodd Gary Jones ei weld ddiwethaf ddoe yn Stryd Llanarth yng nghanol y ddinas, ac mae’r heddlu’n bryderus am ei ddiogelwch.
Caiff ei ddisgrifio fel dyn 5 troedfedd 10 modfedd o daldra ac o faint canolig gyda gwallt tywyll/llwyd sy’n moeli.
Os oes rhywun yn gweld Gary Jones neu â gwybodaeth lle mae, mae’r heddlu’n apelio ar iddyn nhw gysylltu â Heddlu Gwent ar 101 gan nodi cyfeirnod 553 26/08/16.