Owen Smith (llun: Andrew Matthews/Gwifren PA)
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi beirniadu Owen Smith, sydd yn y ras i arwain y blaid Lafur, am chwarae ar ofnau pobl yn y ddadl dros ffoaduriaid ym Mhrydain.

Adroddodd y New Statesman yn gynharach yr wythnos hon fod AS Pontypridd wedi honni fod “nifer sylweddol” o bobl sy’n ffoi o’r Dwyrain Canol wedi cyrraedd ei etholaeth yn ne Cymru.

Dengys ffigyrau a gyhoeddwyd ddydd Iau mai’r ffigwr cywir ar gyfer Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd 18 o ffoaduriaid.

Cyn hynny, nid oedd yr awdurdod lleol wedi derbyn yr un person.

Dywedodd Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru: “Hyd yma, mae’r ddadl ynghylch ffoaduriaid wedi cael ei gyrru gan ofn a cham wybodaeth.

“Mae clywed rhywun sy’n ceisio am arweinyddiaeth Llafur yn camarwain a chwarae ar ofnau pobl yn fater o bryder.

“Mae ffigyrau swyddogol yn dangos fod Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi derbyn 18 o ffoaduriaid sydd wedi ffoi’r rhyfel yn Syria ond mae’r AS dros Bontypridd yn honni fod “nifer sylweddol” o bobl o’r Dwyrain Canol wedi dod i dde Cymru.

“Mae sylwadau camarweiniol o’r fath yn achosi difrod i’n cymunedau. Rwy’n condemnio gwleidyddion o bob plaid sy’n defnyddio iaith mor ymfflamychol, ac sy’n ceisio rhannu pobl ac apelio i wleidyddiaeth y dde eithafol.

“Ni ddylai’r hyn a glywn gan UKIP droi’n iaith prif ffrwd gwleidyddiaeth.”