Anthony Jason Riley
Mae dyn o Faesgeirchen ym Mangor wedi cael ei garcharu am 30 mis wedi iddo’i gael yn euog o droseddau cyffuriau.
Cafodd Anthony Jason Riley, 43, ei garcharu heddiw yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Nawr mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio ar drigolion i rannu gwybodaeth a’u pryderon gyda nhw.
Dywedodd Andy Gibson o orsaf Heddlu Bangor eu bod yn “croesawu’r dedfrydu heddiw” gan ychwanegu bod cyffuriau yn cael “effaith enfawr yn ein cymunedau”.
Ychwanegodd y bydd Maesgeirchen yn elwa’n sylweddol gydag Anthony Jason Riley o dan glo a diolchodd i drigolion lleol am y wybodaeth wnaeth arwain at ei arestio.
Dywedodd Andy Gibson: “Rydym yn gwbl ymroddedig i ddarparu gogledd Cymru fwy diogel a darparu’r gwasanaeth mae ein cymunedau yn ei haeddu, ond ni allwn wneud hyn ar ein pen ei hunain. Yn allweddol i’n holl waith, a gwaith ein partneriaid, mae cudd-wybodaeth ac ni allaf bwysleisio ddigon pa mor bwysig yw hi bod y gymuned yn rhannu eu pryderon gyda ni.”
Mae modd i’r cyhoedd rannu gwybodaeth gyda’r heddlu mewn nifer o ffyrdd.
Naill ai trwy siarad â’r Swyddog Heddlu, ffonio 101 neu trwy Facebook a Twitter. Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi dechrau gwasanaeth newydd ble mae modd sgwrsio ar lein â’r ystafell reoli yn trwy ddilyn y cyfeiriad hwn: <http://www.north-wales.police.uk/contact/chat-support.aspx>
Neu fe all y cyhoedd roi gwybodaeth yn ddienw trwy ffonio Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.