Bydd Topper yng Ngŵyl Rhif 6
Mae un o fandiau mwya’ melodig y 1990au wedi ailffurfio ac yn chwarae yn fyw am y tro cyntaf ers 2005 nos Sul mewn gig i gynhesu ar gyfer Gŵyl Rhif 6

Cyn i’r Super Furries a Noel Gallagher gamu i’r prif lwyfan ar nos Sul Gŵyl Rhif 6, bydd Topper yn cloi’r arlwy Gymraeg ar Lwyfan Clough am saith y nos.

Er mwyn paratoi at yr ŵyl ym Mhortmeirion, mi fyddan nhw’n chwarae gig ddydd Sul yma yn Neuadd Ogwen, Bethesda.

Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw chwarae yn fyw ers gŵyl Miri Madog Porthmadog yn 2005 ac mae canwr Topper wrth ei fodd yn cael y band nôl at ei gilydd.

“Blwyddyn yma ydy dathliad, digwydd bod, ugain mlynedd ers rhyddhau sengl gynta’ ni,” meddai Dyfrig Evans y canwr 38 oed sydd hefyd yn wyneb adnabyddus ar S4C, ac yntau wedi actio ar Rownd a Rownd, Talcen Caled a Gwlad yr Astra Gwyn.

“Ryda ni wedi bod yn chwarae efo’r syniad o ddod yn ôl ers rhyw dair, pedair blynedd.

“Ond roedd pawb yn brysur, pobol fel fi yn cael divorce… pawb yn cael plant. A dw i newydd gael plentyn arall.

“Ond mae o jesd yn teimlo’n iawn [i ailffurfio’r band], mae pawb yn really keen ac mae o’n swnio’r gorau y mae o erioed wedi swnio.

“Mae o wir yn swnio’n dda a dw i’n edrych ymlaen i bobol gael ein clywed ni.”Yn ogystal â’r lein-yp gwreiddiol o Dyfrig Evans y canwr, ei frawd Iwan Evans ar y bass, Peter Richardson ar y dryms a Siôn Glyn ar y gitâr, mae Topper 2016 yn cynnwys Gruff ab Arwel ar yr allweddellau a’r gitâr.

Bydd gan Topper awr o set yng Ngŵyl Rhif 6 ac mae’r canwr yn addo “sioe reit liwgar” gyda “rhyw bethau bach rhwng caneuon”.

“Mae’r set yn reit amrwd… mae pob cân sydd yn y set wedi eu chwarae ar bethau fel [rhaglen] John Peel, Radio 1… mae rhywun yn rywle wedi clywed pob cân – ac i fand sydd wedi marw ers dros ddeng mlynedd, dw i’n meddwl fod o’n rhywbeth i’w glodfori.”

Cyfweliad llawn gyda Dyfrig Evans yng nghylchghrawn Golwg yr wythnos hon.