Mae tîm o gŵn a hyfforddwyd yng Nghymru wedi cael eu hanfon i Tanzania, a hynny er mwyn cynorthwyo’r awdurdodau yno i fynd i’r afael â photsio eliffantod anghyfreithlon.

Cafodd dau o gŵn, Dexter y sbanial a Jenny sy’n Belgian malinois, eu hyfforddi’n arbennig ar gyfer y dasg yn ysgol hyfforddi cŵn Wagtail UK yn Sir y Fflint.

Maen nhw eisoes wedi dod o hyd i bedwar dant eliffant oedd wedi eu cuddio mewn adeilad gan botswyr yn Tanzania.

Dywedodd Huw Lewis Williams, hyfforddwr cŵn gyda Wagtail UK, eu bod nhw wedi ystyried hyfforddi cŵn allan yn Affrica i ddechrau.

“Wnaethon ni feasibility study allan yn Tanzania ac un o’r problemau oedd gynnon ni pan wnaethon ni ddechrau oedd, er bod digon o gŵn yn Tanzania, bo nhw’n ddiog!

“Felly wnaethon ni trainio’r cŵn yn y wlad yma.”

Ond nid yw’r prosiect, sy’n cael ei redeg ar y cyd gan Gymdeithas Cadwraeth Bywyd Gwyllt o America a Pharciau Cenedlaethol Tanzania, wedi bod heb ei heriau, gydag un o’r cŵn cyntaf a gafodd ei gludo yno’n marw ar ôl cael ei frathu gan bry.

“Yn anffodus, wnaethon ni golli un ci – springer spaniel o’r enw Charlie – i bry tsetse,” esbonia Huw Lewis Williams. “Felly wnaethon ni ddechrau eto gan chwilio am gŵn golau – dim byd tywyll sy’n denu’r pry tsetse.”

Wedi hyfforddi’r cŵn am 18 mis i ganfod ifori a gynnau, cludwyd y cŵn draw o Gymru i Tanzania cyn i’r tîm hyfforddi dreulio amser yno’n hyfforddi ceidwaid y parc cenedlaethol i edrych ar ôl y cŵn

Ychwanegodd Huw Lewis Williams: “Es i allan i Tanzania am dri mis o fis Mawrth flwyddyn ddiwethaf.”

Gyda’r ddau gi cyntaf yn arogli llwyddiant cynnar, mae sôn eisoes am hyfforddi mwy o gŵn ar gyfer y Parciau Cenedlaethol yn ogystal ag ar gyfer meysydd awyr a phorthladdoedd, er mwyn helpu i atal y fasnach mewn ifori.

Dywedodd Dr Tim Davenport o’r Gymdeithas Cadwraeth Bywyd Gwyllt: “Mae’n profi’n llwyddiannus ac rydym yn ystyried dod a mwy o gŵn drosodd.”

Ychwanegodd ei bod hi’n her cadw’r cŵn yn iach ac wedi eu hyfforddi ond eu bod nhw’n arf arall i’w ddefnyddio yn erbyn y fasnach anghyfreithlon mewn ifori.