Mae 36 o fyfyrwyr wedi penderfynu cael blas ar lenyddiaeth ac iaith Cymraeg Canol eleni, a hynny mewn prifysgol yn America.

Yr wythnos hon mae Dr Josh Smith o Adran Saesneg Prifysgol Arkansas wedi dechrau dysgu cwrs Cyflwyniad i Lenyddiaeth ac Iaith Cymraeg Canol.

Mae’r brifysgol yn dyfalu mai dyma’r dosbarth mwyaf i astudio Cymraeg Canol “yn unrhyw le erioed yn y byd (ac eithrio Cymru, efallai) yn yr oes fodern”. Er hynny, mae’r coleg yn cyfaddef nad oes ganddyn nhw unrhyw dystiolaeth bendant i gefnogi ‘r haeriad.

“Yr ydym yn fwy hyderus, fodd bynnag, bod ffenomen o’r fath erioed wedi digwydd o’r blaen ar gampws Prifysgol Arkansas,” meddai’r Brifysgol mewn datganiad.

Dywedodd Dr Josh Smith bod y cwrs yn canolbwyntio’n bennaf ar iaith Cymraeg Canol. Hanner ffordd trwy’r cwrs bydd myfyrwyr yn dechrau darllen darnau o ryddiaith Cymraeg Canol cyn treulio’r rhan fwyaf o’r ail dymor yn darllen testunau Cymraeg Canol.

Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn un o’r niferoedd sydd wedi ymateb i’r post Facebook am y dosbarth gan ddymuno “pob lwc” i’r myfyrwyr.