Cafodd Gareth Bale ei guro gan Cristiano Ronaldo ac Antoine Griezmann yn y ras i gael ei enwi’n Chwaraewr Gorau Ewrop gan UEFA neithiwr.

Daeth Bale yn drydydd y tu ôl i Ronaldo, un arall o chwaraewyr Madrid, a’r Ffrancwr Griezmann sy’n chwarae i Atletico Madrid.

Roedd Bale yn aelod o garfan Real Madrid a gipiodd dlws Cynghrair y Pencampwyr y tymor diwethaf, cyn arwain Cymru i rownd gynderfynol Ewro 2016 dros yr haf.

Cafodd yr enillydd ei gyhoeddi wrth i Bale ddarganfod pwy fyddai gwrthwynebwyr Real Madrid yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor hwn, gyda rownd derfynol y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar ddiwedd y tymor.

Bydd Real Madrid yn herio Borussia Dortmund, Sporting CP a Legia Warsaw yng Ngrŵp F.

Mae Bale eisoes wedi ennill tlws yng Nghaerdydd yn y gorffennol, ar ôl i Real Madrid godi’r Super Cup yn 2014.

Cristiano Ronaldo

Roedd Cristiano Ronaldo – fel Bale – yn ganolog i lwyddiant Real Madrid y tymor diwethaf, ac roedd yn gapten ar Bortiwgal yn Ewro 2016 wrth iddyn nhw guro Cymru i gyrraedd y rownd derfynol, cyn ennill y gystadleuaeth.

Sgoriodd Ronaldo 51 o goliau mewn 48 o gemau ym mhob cystadleuaeth i Real Madrid y tymor diwethaf, gan gynnwys y gic fuddugol o’r smotyn i guro Atletico Madrid yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr.

Sgoriodd dair gôl yn Ewro 2016, ond Griezmann ddaeth i frig tabl prif sgorwyr y gystadleuaeth gyda chwe gôl.