Glyn Wise, yr ymgeisydd (Llun Plaid Cymru)
Mae cyn ymgeisydd Plaid Cymru wedi mynd ar wefannau cyfryngau cymdeithasol i ddatgan ei fod wedi gadael y blaid.

Ar Facebook, dywedodd Glyn Wise, y cyn-gystadleuydd  ar y rhaglen Big Brother, ei fod “wedi penderfynu gadael Plaid Cymru achos does gennym ni ddim yr un weledigaeth ar gyfer dyfodol ein gwlad”.

Roedd Glyn Wise, sy’n wreiddiol o Flaenau Ffestiniog, wedi sefyll dros Plaid Cymru yn etholaeth Canol Caerdydd yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai.

Fe ddaeth o’n bedwerydd yn ras – y tu ôl i Lafur, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol – gyda 1,951 o bleidleisiau

Mae golwg360 wedi gofyn i Glyn Wise a Plaid Cymru am sylw.