Pobol o wlad Pwyl yw'r tramorwyr mwya' cyffredin yn y Deyrnas Unedig
Mae cynnydd o 64,000 wedi bod yn nifer y bobol dramor sy’n byw yng Nghymru mewn deng mlynedd yn ôl ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn 2005, roedd 108,000 o bobl oedd wedi eu geni dramor yn byw yng Nghymru o’u gymharu a 172,000 y llynedd.

Ond fe fu ychydig o gwymp o gymharu â’r flwyddyn gynt, pan oedd y cyfanswm yn 180,000.

  • Dim ond tua 5% yw’r ganran trwy Gymru gyfan o’i gymharu â tuag 20% o’r boblogaeth sy’n dod o Loegr.
  • Caerdydd yw’r awdurdod lleol sydd â’r ganran fwya’ o bobol wedi eu geni dramor gyda 13%.
  • Siroedd Castell Nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr sydd â’r nifer lleia gyda 2%.

Dangosodd y ffigyrau diweddaraf hefyd fod 64,000 o boblogaeth Cymru’n ddinasyddion Ewrop – sef un ym mhob 48 o boblogaeth y wlad.

Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos bod 3.2 miliwn o ddinasyddion gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd yn byw yn y Deyrnas Unedig yn 2015.

  • Trwy’r Deyrnas Unedig, pobol o wlad Pwyl yw’r tramorwyr mwya’ cyffredin, gan basio pobol o India am y tro cynta’. Mae mwy nag 800,000 o bobol o wlad Pwyl bellach yn byw yng ngwledydd Prydain.