Sophie Taylor (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae dau ddyn a dwy ddynes a gafodd eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad yn dilyn damwain ffordd yng Nghaerdydd wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Bu farw Sophie Taylor, 22, o Landaf, Caerdydd yn oriau mân fore Llun, 22 Awst ar ôl i’w char BMW du daro bloc o fflatiau ar y gyffordd rhwng Stryd Meteor a Stryd Moira yn  Waunadda.

Mae dyn 21 oed a oedd yn teithio yn y car gyda Sophie Taylor yn parhau  mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Apêl am dystion
Mae’r heddlu’n dal i apelio am dystion i’r ddamwain a ddigwyddodd tua hanner awr wedi hanner nos fore Llun.

Maen nhw’n awyddus i glywed gan unrhyw un a  allai fod wedi gweld tri char – BMW lliw du, BMW gwyn a Vauxhall Corsa du – a oedd yn teithio gyda’i gilydd o gwmpas Caerdydd yn hwyr nos Sul hyd at oriau man fore Llun.

Y gred yw bod y ceir wedi teithio ar hyd Heol Casnewydd, Broadway, yn ôl ar Heol Casnewydd, cyn troi i’r chwith ar Heol Glossop a phasio Ysbyty Brenhinol Caerdydd cyn y gwrthdrawiad ar Stryd Meteor.