Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddau lanc ymosod ar ddyn oedd gyda’i bartner a’u babi ym Mhrestatyn ddoe.
Yn ôl yr heddlu, roedd y dyn yn cerdded ar hyd Winchester Drive ychydig cyn saith neithiwr pan ymosodwyd arno gan ddau ddyn ifanc oedd yn pasio ar y stryd.
Cafodd y dyn ei gicio a’i sathru a chredir bod potel hefyd wedi cael ei defnyddio gan y dynion i anafu’r dyn.
Doedd dim esboniad am yr ymosodiad ac mae’r dyn wedi ei anafu’n ddifrifol, yn ôl Mark Doyle o Heddlu Gogledd Cymru.
Dyma’r disgrifiad
- Dau ddyn gwyn, tuag 17 oed.
- Taldra’r ddau – tua 5’9
- Roedd un yn gwisgo siaced ddu a bag cefn ac mae ganddo wallt byr melyn gyda “spacer” yn ei glust. Roedd y llall yn wisgo jîns glas golau tynn ac mae ganddo wallt du tonnog.
Mae unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd neu’n gwybod unrhyw beth am be ddigwyddodd yn cael eu hannog i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru gan ffonio 101 a dyfynnu rhif cyfeirnod RC16127832.