Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi derbyn grant o £280,000 i edrych mewn i ffyrdd newydd o atal canser y brostad rhag dychwelyd a lledaenu ar ôl triniaeth.

Bydd y tîm, o dan arweiniad Dr Richard Clarkson, yn profi gallu cyffur newydd a ddatblygwyd yn eu labordy i ladd celloedd ym môn canser y brostad y maent yn credu sy’n gyfrifol am ledaenu’r canser hyd yn oed ar ôl llawdriniaeth neu radiotherapi.

Mae’r grant wedi cael ei ddyfarnu gan elusen Canser y Brostad y DU fel rhan o gynllun Gwobrau Ymchwil newydd yr elusen sydd werth £2.6 miliwn.

Mae tua un rhan o dair o ddynion sydd wedi cael triniaeth am eu canser yn dychwelyd ychydig flynyddoedd ar ôl eu triniaeth gyntaf.

Yn ogystal, mae canran uchel o farwolaethau o ganser y brostad yn digwydd mewn dynion y mae eu canser wedi dychwelyd ar ôl triniaeth gychwynnol.

Mae canser y brostad yn lladd dros 540 o ddynion yng Nghymru bob blwyddyn a mwy na 2,500 yn cael diagnosis bob blwyddyn.

Yn ôl rhagolygon, mae hefyd yn debygol o fod y math mwyaf cyffredin o ganser yn y DU erbyn 2030.

‘Cyffur newydd’

Meddai Dr Richard Clarkson o Brifysgol Caerdydd: “Hyd yn oed pan mae canser y brostad yn cael ei ddal a’i drin cyn iddo ymledu y tu allan i’r brostad, mae’n dychwelyd yn rhy aml.

“Mae’r cyffur newydd posibl  hwn yn targedu’r celloedd y credwn sy’n achosi i’r canser ddychwelyd. Ein gobaith yw y bydd yr astudiaeth hon yn paratoi’r ffordd ar gyfer ei ddefnyddio ochr yn ochr â therapi canser y brostad sy’n bodoli eisoes er mwyn helpu cleifion aros yn rhydd o ganser.

“Rydym yn hynod o ddiolchgar am y grant hwn gan Canser y Brostad y DU  ac yn methu aros i ddechrau arni.”