Mae dyn 60 oed o Gaerdydd wedi cael ei arestio yn yr Almaen wedi ei gyhuddo o gynllwynio i herwgipio.

Cafodd y dyn ei arestio yn Hambwrg ar 12 Awst a bydd nawr yn cael ei estraddodi yn ôl i’r DU.

Meddai Heddlu Gwent bod y dyn wedi ei arestio mewn cysylltiad ag Ymgyrch Imperial sy’n ymchwilio i achosion o gaethwasiaeth fodern.

Cefndir

Yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Mai eleni, cafodd pedwar dyn eu dedfrydu i gyfanswm o 27 mlynedd yn y carchar am lafur gorfodol, cynllwynio i herwgipio, pedwar cyhuddiad o herwgipio a nifer o gyhuddiadau o ymosod gan achosi niwed corfforol.

Cafodd pumed dyn ei gyhuddo o gynllwynio i herwgipio hefyd ond llwyddodd i ddianc dramor. Y dyn hwnnw sydd yn awr wedi ei arestio yn Hambwrg.

Nôl ym mis Mai, dywedodd Uwch Arolygydd Heddlu Gwent, Paul Griffiths, a arweiniodd yr ymchwiliad, fod troseddau tebyg yn gadael “effaith sy’n para ar ddioddefwyr – nid yn unig y dirywiad corfforol, ond seicolegol hefyd.”

“Mewn achosion fel hyn, mae dioddefwyr yn ofni’r bobol sy’n eu rheoli nhw. Dyna pam mae angen help y cyhoedd. Yn aml, gall y bobol sy’n byw yng nghalon ein cymunedau adnabod yr arwyddion o ecsbloetio a’r rheiny nad sy’n medru helpu eu hunain.”