Mae disgyblion wedi derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw Llun: PA
Mae disgyblion Cymru wedi bod yn derbyn eu canlyniadau TGAU a Bagloriaeth Gymreig heddiw gyda’r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams yn dweud eu bod yn dangos “perfformiad cryf arall.”
Dywed Llywodraeth Cymru bod nifer y graddau A*-C wedi’u cynnal a bod cynnydd wedi bod yn y rhai a gafodd y graddau uchaf.
Mae’r ystadegau’n dangos bod cyfran y graddau A*-A wedi cynyddu 0.2 pwynt canran o gymharu â’r llynedd, ac wedi cyrraedd 19.4%, a bu cynnydd mewn graddau A*, sydd wedi codi 0.1% i 6.1%.
Fe wnaeth disgyblion sicrhau gradd C neu uwch mewn 66.6% o arholiadau TGAU – yr un ffigwr a llynedd.
‘Perfformiad cryf’
Wrth longyfarch myfyrwyr, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams:
“Mae canlyniadau TGAU eleni yn dangos perfformiad cryf arall. Mae dwy ran o dair o’n dysgwyr wedi cael o leiaf A*-C ac mae yna gynnydd yn y graddau uchaf, diolch i waith caled ein disgyblion a’u hathrawon.
“Mae’r perfformiad yn y pynciau gwyddoniaeth unigol yn parhau’n uchel o gymharu â chanlyniadau gweddill y DU ac mae’r canlyniadau lefel mynediad hefyd wedi codi.
“Mae ein perfformiad yn y Fagloriaeth hefyd yn wych, ac mae gan fwy nag 14,000 o ddisgyblion sgiliau a phrofiadau ychwanegol bellach sy’n rhoi mantais iddynt mewn byd cynyddol gystadleuol.
“Fe all athrawon a disgyblion ymfalchïo yn y ffaith bod Cymru wedi cynnal ei record o ran y gyfradd basio. Fe fydda i’n parhau i ganolbwyntio ar godi’r safonau a’n huchelgais i sicrhau rhagoriaeth ym mhob un o’n hysgolion.”
‘Cymwysterau yn newid’
Mae cymwysterau TGAU yn newid yng Nghymru; ers mis Medi 2015 mae chwe phwnc TGAU wedi bod yn cael eu haddysgu ar eu ffurf ddiwygiedig am y tro cyntaf – Cymraeg Iaith, Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Gymraeg, Llenyddiaeth Saesneg, Mathemateg Rhifedd a Mathemateg.
Bydd arholiadau Tachwedd 2016 a haf 2017 yn adlewyrchu’r cymwysterau newydd hyn. Fe fydd hyn yn ei gwneud yn anoddach i gymharu canlyniadau Cymru a Lloegr.
Mae’r ystadegau hefyd yn dangos:
- Cyfradd basio gyffredinol A*-G o 98.7%, yr un fath â’r llynedd.
- Bod y canlyniadau mathemateg yng Nghymru ymhlith disgyblion 16 oed dros flwyddyn academaidd gyfan 2015-16 yn dangos gwelliannau ym mhob gradd, a bod cyfraddau pasio A*-C nawr wedi cyrraedd 65.5%.
- Bod mwy nag 14,000 o ddysgwyr wedi cael Diploma’r Fagloriaeth Gymreig.
- Bod cynnydd o 0.4 pwynt canran yn nifer y dysgwyr a gwblhaodd eu Bagloriaeth Gymreig ar lefel ganolradd o gymharu â lefelau 2015.
- Bod bron i 12,000 o ddysgwyr wedi cael y Diploma Canolradd llawn.
Canlyniadau ‘cymysg’
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig roedd y canlyniadau yn “gymysg”.
Dywedodd Darren Millar AC: “Mae canlyniadau TGAU heddiw yn cynnig achos i fod yn optimistaidd ac yn ddigalon.
“Ar yr un llaw rydym yn gweld cynnydd bychan yn nifer y myfyrwyr sy’n llwyddo i gael graddau uchel; tra ar y llaw arall mae nifer y disgyblion sy’n cael graddau A i C wedi aros yr un fath.”
“Er ein bod bellach yn gyfartal o ran canlyniadau rhanbarthau o Loegr, yr ydym yn parhau ar ei hôl hi o’i gymharu â Gogledd Iwerddon.
“Mae’r canlyniadau yn dangos cwymp mewn cyrhaeddiad myfyrwyr mewn gwyddoniaeth ac, i raddau llai, pynciau Saesneg Iaith a llenyddiaeth, sy’n bryder.”
Ychwanegodd Darren Millar: “Mae’n amlwg fod y system yn aneffeithiol, ond mae’r Llywodraeth Lafur yn parhau i wadu a gwrthod cymryd camau i rwystro’r dirywiad.”