Bwyd o fwyty James Sommerin, Penarth, Llun: Gwefan James Sommerin
Mae pedwar o fwytai Cymru wedi cael eu henwi ymysg y 50 gorau ym Mhrydain, yn ôl Good Food Guide 2017.

Bwyty James Sommerin ym Mhenarth oedd y gorau o fwytai Cymru gan gyrraedd safle 34.

Llwyddodd Neuadd Ynyshir ger Machynlleth i gyrraedd rhif 40 ac mae’r Whitebrook yn Nyffryn Gwy yn newydd-ddyfodiad i’r 50 uchaf yn rhif 47.

Mae Neuadd Llangoed sydd hefyd yn Nyffryn Gwy yn rhif 48.

Bwyty L’Enclume ym mhentref Cartmel, Cumbria, sydd wedi dod i’r brig am y bedwaredd flwyddyn yn olynol gyda’r prif gogydd Simon Rogan y sgorio 10 allan o 10 am y pumed tro.

Mae nifer o leoliadau anghyffredin hefyd yn cael eu cynnwys yn y canllaw, gan gynnwys bwyty annibynnol yng ngwasanaethau’r M5 ger Caerloyw a Shuck’s at the Yurt, bwyty sydd wedi ei leoli mewn pabell yn Norfolk.

Cafodd y Good Food Guide, sy’n eiddo i Waitrose, ei gyhoeddi gyntaf yn 1951 a phob blwyddyn mae’n rhestru “600 o leoedd ar hyd a lled Prydain lle gallwch ddibynnu ar bryd o fwyd da am bris rhesymol”.