Carwyn Jones Llun: Y Blaid Lafur
Mae’r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi cyhuddo Carwyn Jones o fod yn “llwfr” am ei ddiffyg parodrwydd i ddatgan pwy fydd e’n ei gefnogi yn y ras am yr arweinyddiaeth y Blaid Lafur.

Dyma’r ffrae ddiweddaraf sy’n bygwth hollti’r Blaid Lafur wrth i AS Pontypridd, Owen Smith, herio Jeremy Corbyn am yr arweinyddiaeth.

Ac mae’r ffrae wedi cyrraedd Cymru, gydag adroddiadau’n awgrymu bod swyddi aelodau staff y Blaid Lafur mewn perygl os nad ydyn nhw’n cefnogi Jeremy Corbyn.

Yn ôl adroddiadau, mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn “hynod o grac” fod y Blaid Lafur ar raddfa Brydeinig yn ymyrryd yng ngwaith aelodau’r blaid yng Nghymru.

‘Diffyg arweiniad’

Wrth ymateb i’r sefyllfa yng Nghymru, dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod ffrae fewnol y Blaid Lafur wedi cyrraedd “berw gwyllt”.

“Mae’n amlwg fod y rhyfel cartref sy’n amgylchynu’r Blaid Lafur wedi cyrraedd berw gwyllt.

“Mae’r Prif Weinidog yn cymryd safbwynt llwfr wrth beidio ag amlygu ei farn a dewis ymgeisydd ar gyfer y ras am yr arweinyddiaeth.

“Ddau ddiwrnod yn ôl, mynegodd arweinwyr Llafur Kezia Dugdale a Sadiq Khan eu cefnogaeth i Owen Smith, felly mae tawelwch y Prif Weinidog ynghylch y mater hanfodol hwn yn ymddangos yn rhyfedd, ac yn dangos diffyg arweiniad.

“Dydy hi ddim yn gyfrinach nad yw Carwyn Jones yn ymddiried yn Corbyn, sy’n groes i aelodau yng Nghymru – gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw fel pe baen nhw’n agored eu cefnogaeth iddo fe.

“Mae hyn yn codi’r cwestiwn o ba mor agored yw e a’i gydweithwyr i’r cyfeiriad y mae’r aelodau am fynd â’r blaid.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb y Blaid Lafur yng Nghymru.