Owen Smith a Jeremy Corbyn Llun: PA
Mae’r ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, Owen Smith, wedi gorfod amddiffyn ei ddefnydd o’r gair “gwallgofddyn” (lunatic) wrth iddo annerch rali yn Llundain.

Daeth sylwadau Aelod Seneddol Llafur Pontypridd yn sgil ffrae rhwng arweinydd y blaid Jeremy Corbyn a chwmni trenau Virgin am seddau ar drên.

Dywedodd Owen Smith yn y  rali yn Llundain mai’r “hyn na chewch chi gen i yw ryw wallgofddyn ar frig y Blaid Lafur”.

Mae cefnogwyr Jeremy Corbyn wedi galw ar Owen Smith i dynnu ei sylwadau’n ôl ac ymddiheuro wrth bobol sy’n dioddef o salwch iechyd meddwl.

Ond mae Owen Smith yn mynnu ei fod yn cyfeirio ato’i hun ac nid at Jeremy Corbyn.

‘Ymddiheuro’

Wrth gynnig rhagor o eglurhad, ychwanegodd Smith ar raglen Today ar BBC Radio 4: “Ro’n i’n dweud nad ydw i’n wallgofddyn.

“Ar ôl cael fy nghyhuddo’n gynharach yn y noson o redeg o amgylch fel gwallgofddyn, ro’n i’n dweud nad ydw i’n wallgofddyn, ond os yw unrhyw un wedi cael ei sarhau gan y defnydd o’r gair hwnnw yna rwy’n ymddiheuro ac rwy wedi gwneud hynny eisoes y bore ma ac fe wnaf eto.

“Ond do’n i ddim yn siarad am Jeremy. Ro’n i’n siarad amdanaf fi fy hun.”

Wrth ymateb, dywedodd Corbyn wrth newyddiadurwyr: “Rwy’n gresynu wrth ddefnydd yr iaith honno mewn unrhyw gyd-destun; dydw i ddim yn ei defnyddio fy hun a dydw i ddim yn ei defnyddio heddiw.”

Seddau gwag

Yn y cyfamser mae  Jeremy Corbyn wedi bod yn amlinellu ei gynlluniau i ‘ail-wladoli’r’ Gwasanaeth Iechyd ond roedd y ffrae ynglŷn â seddi gwag ar drên Virgin yn parhau i hawlio’r sylw.

Roedd Corbyn wedi beirniadu trenau gorlawn mewn fideo gan ddweud ei fod e wedi eistedd ar lawr trên gan nad oedd seddau ar gael.

Ar ôl i luniau ar gamerâu cylch-cyfyng awgrymu bod digon o seddau gwag ar y trên, dywedodd Corbyn ei fod e wedi dymuno cael dwy sedd nesaf at ei gilydd er mwyn cael eistedd gyda’i wraig.

Wrth egluro’i daith ar y trên, dywedodd Corbyn: “Gadewch i ni fynd i fanylion y peth – do, fe wnes i gerdded ar hyd y trên. Do, fe wnes i edrych am ddwy sedd wag gyda’i gilydd fel y gallwn i eistedd gyda fy ngwraig i siarad â hi. Doedd hynny ddim yn bosibl, felly es i i ddiwedd y trên.

“Daeth rheolwr y trên, oedd yn ddyn hoffus iawn, ata i ac fe gawson ni sgwrs am broblemau gorlenwi a rheoliadau ar drenau, ac fe ddywedodd y byddai’n gweld beth allai ei wneud.

“Ar ôl iddo gynnig fy uwchraddio i ddosbarth cyntaf, y gwnes i ei wrthod, yn garedig iawn fe ddaeth e o hyd i seddau, ac ar ôl 42 munud, es i’n ôl drwy’r trên i’r seddau roedd e wedi’u neilltuo.

“Gwnaethon ni eistedd yn y fan honno a gwneud tipyn o waith paratoi ar gyfer ein hymweliad â Newcastle.”

Mae Corbyn bellach wedi cael gwahoddiad i gyfarfod a swyddogion cwmni trenau Virgin.