Tref Porthmadog
Mae dau o gynghorwyr ardal Porthmadog yn dweud eu bod yn cael eu “hamddifadu o wybodaeth” gan asiantaethau atal llifogydd ac yn galw am atgyweirio a diweddaru buan ar system ddraenio’r ardal, sydd bellach yn 200 mlwydd oed.

Yn ôl y Cynghorwyr Jason Humphreys ac Alwyn Gruffydd, sy’n aelodau o Gyngor Gwynedd a Chyngor Tref Porthmadog, nid yw eu pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif ac maent yn ofni na fydd unrhyw waith o bwys wedi’i orffen cyn y gaeaf hwn er mwyn osgoi llifogydd unwaith eto gan “fygwth cartrefi a bywoliaeth y bobl leol.”

“Mae yna bedwar asiantaeth wahanol yn gyfrifol am atal llifogydd hyd ddyffryn Afon Glaslyn a Bro Madog,” meddai’r Cynghorydd Alwyn Gruffydd o Dremadog.

“Ond mae’r wybodaeth ynglŷn â  beth yn union sydd ar y gweill ganddyn nhw’n amrywio o’r naill i’r llall.”

Mae’r ddau gynghorydd wedi mynychu sawl cyfarfod ac ymweliadau safle gyda chynrychiolwyr Cyngor Gwynedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Dŵr Cymru yn ogystal â ffermwyr lleol, ond yn dweud nad ydynt fymryn nes i’r lan o wybod manylion cynlluniau atal llifogydd yn yr ardal.

‘Draeniau wedi cwympo’

Meddai cynghorydd Dwyrain Porthmadog, Jason Humphreys: “Yr hyn yr ydym yn ei wybod ydi fod draeniau ar hyd a lled y fro wedi cwympo, fod ffosydd, sy’n rhan annatod o’r system ddraenio, wedi cau oherwydd diffyg cynnal a chadw rheolaidd, ac nad yw un allan o bump o lidiardau’r Dorau Mawr, sy’n rheoli llif Afon Glaslyn, wedi gweithio ers blwyddyn.”

“Os nad yw hynny’n arwydd o lifogydd posib wn i ddim be sydd.”

Yn ystod y ddau aeaf diwethaf boddwyd cartrefi a busnesau yn ardal Porthmadog a Thremadog o ganlyniad i law trwm a draeniau diffygiol ac mae’r ddau gynghorydd yn galw am weithredu cynlluniau atal llifogydd yn yr ardal cyn dechrau’r gaeaf hwn.

“Roedd peirianwyr yn gallu rheoli llanw a lli yn yr ardal 200 mlynedd yn ôl,” ychwanegodd Alwyn Gruffydd. “Felly beth sy’n eu rhwystro heddiw?”

‘Mesurau ychwanegol mewn grym’

 

Meddai Keith Ivens, Rheolwr Risg Llifogydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae llifogydd yn brofiad ofnadwy ac rydym yn llwyr ddeall bod pobl yn Nhremadog am wybod beth sy’n cael ei wneud i leihau eu perygl o lifogydd.

“Mae’r cyfrifoldeb ar gyfer draenio yn yr ardal hon yn cael ei rannu rhwng yr Awdurdod Lleol, Dwr Cymru Welsh Water a Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Yn ystod yr haf, rydym wedi cynnal sesiwn galw heibio i drafod y mater gyda phobl leol ac rydym wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyngor y dref y mis diwethaf. Ar ben hyn, byddwn yn cyhoeddi cylchlythyr gyda’r sefyllfa ddiweddaraf yn y mis nesaf.

“Rydym yn mynd i’r afael a phroblem gydag un o’r drysau llanw, ond mae’n bwysig i bobl ddeall bod mesurau ychwanegol mewn grym sy’n gweithio’n effeithiol ac nid yw’r sefyllfa gyda’r drysau llanw yn cynyddu perygl llifogydd ychwanegol i’r ardal.

“Yn y cyfamser, bydd ein gwaith cynnal a chadw rheolaidd yn Y Cyt yn digwydd eto ym mis Hydref a byddwn yn parhau i wneud yn siŵr bod pobol leol yn gwybod am ein gwaith.”