Mae ffigyrau newydd sy’n cael eu cyhoeddi heddiw yn dangos bod ailgylchu yn parhau i gynyddu a’i fod ar y lefel uchaf erioed.

Yn 2015/16 roedd cyfraddau ailgylchu a chompostio, ar draws y 22 awdurdod lleol yng Nghymru, yn 60%.

Mae hynny’n gynnydd o 4% ar y flwyddyn flaenorol ac yn 2% yn uwch na tharged ailgylchu Llywodraeth Cymru o 58%.

‘Calonogol’ 

Wrth groesawu’r ffigurau, dywedodd Lesley Griffiths, ysgrifennydd y cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig bod y ffigyrau yn “hynod galonogol”.

Ychwanegodd ei bod hi am weld Cymru’n dod yn un o’r “gwledydd gorau yn Ewrop am ailgylchu.”

Meddai Lesley Griffiths AC: “Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r targedau ailgylchu gynyddu y tu hwnt i’r lefel uchelgeisiol o 58%.

“Mae’r ffaith bod y ffigurau hyn nid yn unig yn cyrraedd y targed, ond, yn uwch na’r targed yn hynod galonogol, gan ddangos ein bod yn parhau i wella ein cyfradd ailgylchu.”

Targed yn codi i 70% erbyn 2025 

Erbyn 2025, bydd y targed ailgylchu wedi codi i 70% ond dyw Lesley Griffiths ddim yn credu y bydd hynny’n broblem i awdurdodau lleol Cymru.

Ychwanegodd Lesley Griffiths: “Mae pob un ond tri o’r 22 o Awdurdodau Lleol wedi llwyddo i gyrraedd y targed o 58%, yn seiliedig ar y data dros dro.  Mae’r Awdurdodau Lleol sy’n weddill wedi derbyn cyllid ychwanegol fel rhan o Raglen Newid Gydweithredol Llywodraeth  Cymru.

“Bydd hyn yn eu galluogi i wella eu gwasanaethau casglu a chyfleusterau’r depo a’u helpu i gyrraedd y Targedau Ailgylchu Statudol yn y dyfodol.

“Rwy’n falch iawn ein bod yn arwain gweddill y DU o ran ein cyfradd ailgylchu ond rwyf am i ni wneud hyd yn oed yn well a dod yn un o’r gwledydd gorau yn Ewrop am ailgylchu.”

‘Newid mewn agweddau’

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod y darlun cyffredinol ar gyfer ailgylchu yng Nghymru yn gadarnhaol, er gwaethaf problemau gweddilliol yn y de ddwyrain ble mae’r cyfraddau yn parhau i fod yn is na tharged Llywodraeth Cymru.

Mae’r tri awdurdod lleol sy’n perfformio waethaf yng Nghymru i gyd yn y de-ddwyrain, gyda Blaenau Gwent yn nodi cyfraddau ailgylchu o 49%, 57% yn Nhorfaen a 57% yng Nghasnewydd.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros yr Amgylchedd, David Melding: “Mae’r darlun cyffredinol yn addawol ar gyfer cynghorau Cymru ac mae’r mwyafrif helaeth ohonynt wedi cyrraedd y targed ailgylchu yn gyfforddus. Mae’n adlewyrchu newid mewn agweddau ar draws cymdeithas tuag at ailgylchu, ac mae’n argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol.

“Yn anffodus, fodd bynnag, mae rhannau o Gymru, yn enwedig y de ddwyrain, ble mae cyfraddau ailgylchu yn parhau i fod yn ystyfnig o isel ac sy’n gofyn am ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru.”