Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn 27 oed mewn cysylltiad â dau ladrad arfog yn Abertawe dros y penwythnos.

Digwyddodd y lladrad gyntaf yn siop Premier yn Stryd Caepistyll am 8.10yb fore dydd Sul, a’r ail ddigwyddiad yn siop Spar ar Heol Caerfyrddin toc wedi 8.30yb.

Mae’r dyn yn cael ei gadw yn y ddalfa yng ngorsaf yr heddlu yn Abertawe ac mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.

Dylai  llygad dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r De ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod *319019.