Byddai angen i Ched Evans wneud dipyn mwy na sgorio goliau i gael ei gynnwys yng ngharfan Cymru unwaith eto, yn ôl Chris Coleman.

Cafodd rheolwr tîm pêl-droed Cymru ei holi am Evans, sydd bellach wedi dychwelyd i’r byd pêl-droed gyda Chesterfield ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar.

Cafodd Evans ei arwyddo gan Chesterfield ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar ar ôl i’w ddedfryd am dreisio dynes mewn gwesty yn Y Rhyl gael ei diddymu ym mis Ebrill.

Sgoriodd Evans gyda chic rydd yn ei gêm gyntaf i’w glwb newydd ddechrau mis Awst, ac mae dyfodol rhyngwladol yr ymosodwr yn sicr o fod yn destun trafod am gryn amser.

Ond am y tro, mae Evans yn wynebu ail brawf ym mis Hydref, ac mae’n gwadu’r cyhuddiad o hyd.

Yn y gynhadledd i’r wasg fore Mercher, dywedodd Coleman: “Mae e’n wynebu ail brawf.

“Hyd yn oed pe bai e’n cael ei ganfod yn ddieuog, byddai angen iddo fe wneud tipyn mwy [na sgorio goliau] i gael ei ystyried eto.”