Y dyfarnwr Nigel Owens fydd yn chwythu’r chwiban
Fe fydd dros 1,500 o bobol yn ceisio torri record byd am y sgrym rygbi fwyaf erioed yn ystod gŵyl rygbi’r ‘Golden Oldies’ yng Nghaerdydd ddydd Mercher.

Eiddo 1,198 o bobol yn Twickenham yw’r record bresennol, ar ôl iddyn nhw ddod at ei gilydd yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd y llynedd.

Y dyfarnwr Nigel Owens fydd yn chwythu’r chwiban wrth i’r ymgais ddiweddaraf ddechrau ar gaeau’r brifysgol yn Llanrhymni yng Nghaerdydd.

Mae timau o’r Almaen, Awstralia, Cymru, Seland Newydd, Siapan a’r Unol Daleithiau yn cymryd rhan yn yr ŵyl, a ddechreuodd ddydd Sul, ac sy’n cael ei chynnal yng Nghymru am y tro cyntaf erioed.

Cafodd yr ŵyl ei sefydlu yn Auckland yn 1979, ac mae’n cael ei chynnal bob dwy flynedd.

Ei phrif egwyddorion yw hwyl, cyfeillgarwch a brawdoliaeth ac eleni, mae mwy na 100 o dimau o 18 o wledydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw chwaraewr dros 35 oed.

Dechreuodd y cyfan gyda gorymdaith ddydd Sul cyn y seremoni agoriadol yn Stadiwm Principality, fydd hefyd yn cynnal y seremoni i gau’r digwyddiad ddydd Sul nesaf.