Mae Chris Coleman wedi cyhoeddi carfan Cymru fydd yn herio Moldofa yn eu gêm gyntaf yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yng Nghaerdydd ar Fedi 5.

Wrth gyhoeddi’r garfan, dywedodd Coleman: “Rwy’n falch iawn o Gymru a’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni. Ond yr hyn sydd nesaf sy’n [cyfri] nawr.

“Nid ail-greu’r hyn oedd gyda ni yn Ffrainc [sy’n bwysig], ond creu rhywbeth gwahanol ar gyfer her wahanol.

“Rhaid i ni fyth anghofio beth wnaethon ni. Mae’r tîm sydd ar y cae yn orffenedig. Ond rhaid i ni ddefnyddio hynny a mynd allan i gael yr hyn ry’n ni eisiau ei gael.

“Rhaid i ni ddangos i’r bobol sy’n dod i wylio beth allwn ni ei wneud.

“Ry’n ni’n gwybod beth yw’r disgwyliadau ond fe fyddwn ni’n cymryd y cyfan un cam ar y tro. Rhaid i bob pwynt neu driphwynt olygu’r hyn roedd yn ei olygu yn Ffrainc.”

Mewn neu allan

Does dim lle i Aaron Ramsey, sydd wedi anafu llinyn y gâr, na chwaith Jonny Williams nac Adam Matthews sydd hefyd wedi’u hanafu.

Penderfynodd David Vaughan cyn dechrau’r ymgyrch ei fod am ymddeol o’r byd pêl-droed rhyngwladol.

Ond mae Emyr Huws a Tom Lawrence wedi’u cynnwys unwaith eto ar ôl cael eu gadael allan o’r garfan ar gyfer Ewro 2016.

“Colled” ar ôl Ramsey

Dywedodd Coleman am Ramsey, un o sêr Cymru yn Ewro 2016: “Mae e’n golled i unrhyw dîm, felly ry’n ni’n siomedig.

“Os tynnwch chi fe allan o unrhyw dîm, does dim modd cymryd ei le bron. Mae e’n cael effaith anferth ac mae e’n chwaraewr gwych.”

Wrth edrych ymlaen at yr ymgyrch i gyrraedd Rwsia yn 2018, dywedodd Coleman: “Mae angen i ni wella ar yr hyn ry’n ni wedi’i wneud, a chadw’r tîm i berfformio ar y lefelau maen nhw wedi’i wneud.”

Wrth ateb y cwestiynau anochel am ei ddyfodol ei hun fel rheolwr Cymru ar ôl ei lwyddiant yn Ewro 2016, dywedodd Coleman: “Byddai’n anodd cerdded i ffwrdd ar ôl yr hyn ry’n ni wedi’i wneud. Fi yw rheolwr fy ngwlad. Dim ond unwaith ddaw hynny.

“Rwy am weithio ar y lefel uchaf fel pawb arall. Mae’r hyn sydd gyda fi yma’n arbennig iawn, mae’n agos ar fy nghalon.”

Carfan Cymru: Hennessey, Ward, Fôn Williams; Williams, Taylor, Chester, Gunter, Collins, Richards, Dummett, Davies; Huws, Edwards, Allen, Lawrence, Ledley, King; Bale, Robson-Kanu, Vokes, Cotterill, Church, George Williams