Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards yn galw am sefydlu adolygiad barnwrol i benderfyniad cymdeithas dai Cantref i uno â Wales & West.

Ddechrau’r mis, pleidleisiodd cyfranddalwyr Cantref yn unfrydol o blaid uno, ond mae pryderon wedi cael eu codi ynghylch y penderfyniad ers hynny.

Mae pryder yn lleol y byddai’r cam yn cael “effaith andwyol” ar denantiaid lleol.

Cafodd y bleidlais ei chynnal yng Nghastell Newydd Emlyn, lle cefnogodd 27  o 30 o bobol y cynnig. Roedd angen 75% o’r pleidleiswyr i gefnogi’r cynnig er mwyn i’r cynllun fynd rhagddo.

‘Craffu llawn’

Yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, mae’r cyfuno’n “codi llu o gwestiynau” ac mae angen “craffu llawn” ar y penderfyniad.

Dywed fod “dadl gref iawn i’w gwneud fod gweithredoedd llawdrwm Llywodraeth Cymru wedi arwain yn uniongyrchol at gwymp Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, gan fygwth parhad darpariaeth ac ansawdd gwasanaeth cartrefi cymdeithasol yng ngorllewin Cymru”.

Mewn datganiad, dywed: “Mae fy mhrif bryderon wedi bod ynghylch diffyg ymgynghori gyda thenantiaid, a’r diffyg tryloywder yn y broses bidio. Byddai ymchwiliad yn taflu goleuni ar y materion hyn a rol Llywodraeth Cymru yng nghwymp Landlord Cymdeithasol Cofrestredig.

“Rwy’n mawr obeithio y bydd Aelodau Cynulliad yn ystyried ymchwiliad i’r cyfuno hyn i sicrhau darpariaeth effeithlon cartrefi cymdeithasol yng Nghymru, i sicrhau na fydd tenantiaid na gweithwyr y sector cartrefi cymdeithasol yn gorfod wynebu’r fath amwysedd ac ansicrwydd sydd wedi plagio’r cyfuno hyn.”

 

Pryderon

Mae grŵp annibynnol sy’n ymgyrchu dros hawl pobol ifanc i gartrefi yng Ngheredigion, ‘Ble Ti’n Mynd i Fyw?’ yn pryderu am y bygythiad i swyddi a gwaith lleol ac maen nhw hefyd yn poeni bod diffyg ymgynghori wedi bod gyda thenantiaid, cyfranddalwyr, rhanddeiliaid a’r cyhoedd, na dealltwriaeth o werth y Gymraeg.

Ychwanegodd ‘Ble Ti’n Mynd i Fyw?’ bod nifer o gyfranddalwyr yn anhapus gyda’r diffyg gwybodaeth o flaen llaw, ac wedi codi pryderon am hyn a’r diffyg ymgynghori yn y cyfarfod ddechrau’r mis.

“Mae pryder difrifol mewn perthynas â’r diffygion hyn, yn enwedig o ystyried y broses uno arfaethedig hyd yn hyn,” meddai datganiad gan y grwp.

“Mae nifer o bobl wedi sôn wrth grŵp ‘Ble Ti’n Mynd i Fyw?’ am y bygythiad i swyddi a gwaith lleol a’r diffyg llwyr o ymwybyddiaeth iaith a amlygwyd trwy gynnal cyfarfodydd yn uniaith Saesneg.

“Pwysleisiwn fod gan gyfranddalwyr Cantref ail gyfle i wrthod yr uno arfaethedig hyn, ac i osgoi traflynciad ased dai lleol gan y cawr yma o’r brifddinas sydd yn dangos dim dealltwriaeth na gwerthfawrogiad o anghenion lleol.”

Mae Cantref yn rhentu tai fforddiadwy i bron i 1,500 o denantiaid yng Ngheredigion, Penfro, Powys a Sir Gâr.

Mae Chymdeithas Tai Wales & West yn rheoli dros 9,500 o dai mewn 12 awdurdod lleol yng Nghymru.