Siom i Aaron Ramsey ar ddechrau ymgyrch Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd
Mae amheuon am ffitrwydd Aaron Ramsey ar drothwy ymgyrch Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 2018.

Mae disgwyl i enw Ramsey gael ei adael oddi ar restr y rheolwr Chris Coleman pan fydd yn cyhoeddi ei garfan i herio Moldofa yn ddiweddarach fore dydd Mercher.

Mae Ramsey wedi anafu llinyn y gâr, ac mae’n annhebygol y bydd e’n holliach cyn y gêm ar Fedi 5.

Un o’r rhai eraill fydd allan o’r garfan am y tro yw Jonny Williams, sydd hefyd wedi anafu llinyn y gâr, ac mae David Vaughan wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o gemau rhyngwladol.

Mae Adam Matthews hefyd wedi anafu llinyn y gâr.

Ond un sy’n gobeithio cael ei gynnwys, er nad yw e wedi dod o hyd i glwb newydd eto, yw Hal Robson-Kanu. Penderfynodd yr ymosodwr ddiwedd y tymor diwethaf ei fod am adael Reading, ac fe wnaeth e greu argraff gyda rhai o’i berfformiadau yn ystod Ewro 2016, gan gynnwys ei gôl wyrthiol yn erbyn Gwlad Belg yn rownd yr wyth olaf.

Ond y tro hwn, fe allai Sam Vokes gael ei ddewis o flaen Robson-Kanu yn dilyn ei gôl i Burnley yn erbyn Lerpwl.

Er nad oedden nhw yng ngharfan Cymru yn Ffrainc, fe allai Emyr Huws a Tom Bradshaw gael cyfle y tro hwn yn dilyn trosglwyddiadau dros yr haf.

Mae Emyr Huws bellach wedi symud o Wigan i Gaerdydd, tra bod Bradshaw wedi ymuno â Barnsley o Walsall.