Owen Smith Llun: Andrew Matthews/PA Wire
Mae Owen Smith wedi rhoi addewid y bydd yn ceisio atal dechrau’r trafodaethau ffurfiol i adael yr Undeb Ewropeaidd nes bod Llywodraeth y DU yn cynnig ail refferendwm neu’n galw etholiad cyffredinol fel bod y cyhoedd yn cael cymeradwyo cytundeb terfynol Brexit.

Dywedodd AS Pontypridd y bydd y Blaid Lafur, o dan ei arweiniad, yn pleidleisio yn erbyn tanio Cymal 50 nes bod y Ceidwadwyr yn ymrwymo i ail bleidlais gyhoeddus.

Wrth amlinellu ei farn ar y mater union ddeufis ar ôl canlyniad y bleidlais hanesyddol, rhybuddiodd Owen Smith na fyddai Llafur yn rhoi “siec wag i’r Torïaid”.

Fe wnaeth o hefyd dynnu sylw at sylwadau wnaed gan Jeremy Corbyn ar fore canlyniad y refferendwm yr UE yn galw am danio Cymal 50 ar unwaith. Ers hynny mae arweinydd y Blaid Lafur wedi ailystyried.

‘Angerddol’

Meddai Owen Smith: “Rwy’n angerddol o blaid Ewrop a byddaf yn ymladd i’r eithaf i’n cadw ni yn yr UE.
“O dan fy arweinyddiaeth, ni fydd Llafur yn rhoi siec wag i’r Torïaid. Byddwn yn pleidleisio yn y Senedd i atal unrhyw ymgais i danio Cymal 50 nes bod Theresa May yn ymrwymo i ail refferendwm neu etholiad cyffredinol ar ba bynnag gytundeb terfynol i adael yr UE fydd yn dod i’r amlwg ar ddiwedd y broses. Rwy’n gobeithio y bydd Jeremy yn fy nghefnogi mewn penderfyniad o’r fath.”

Mae Owen Smith eisoes wedi addo cynnig ail refferendwm i’r cyhoedd ym Mhrydain i gadarnhau unrhyw gytundeb Brexit.

Er mwyn gadael yr UE, rhaid i’r DU danio Cymal 50 o dan delerau Cytundeb Lisbon sy’n rhoi dwy flynedd i’r ddwy ochr gyd-drafod telerau’r rhaniad.

Mae disgwyl i Jeremy Corbyn ddefnyddio ei araith heddiw i amlinellu ei gynlluniau i ‘ail-wladoli’r’ Gwasanaeth Iechyd (GIG) wrth i’r ymgyrch yn y ras am yr arweinyddiaeth ddwysau.