Llun: Universal Engineering
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad heddiw sy’n canmol cynnydd o ran y symiau y mae cyflogwyr yn eu buddsoddi mewn sgiliau gweithwyr.

Mae Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2015 yn nodi bod cyflogwyr yng Nghymru wedi buddsoddi £2.1 biliwn mewn sgiliau’r llynedd, o gymharu â £1.6 biliwn yn 2011.

Er hyn, mae’r adroddiad yn cydnabod na fu cynnydd yn  nifer y cyflogwyr sy’n cynnig hyfforddiant newydd gan bwysleisio bod rhai yn cael anhawster recriwtio oherwydd prinder sgiliau.

Twf Swyddi Cymru

 

Daw’r adroddiad hwn ddiwrnod yn unig wedi i’r Ceidwadwyr Cymreig dynnu sylw at fwriad Llywodraeth Cymru i haneru eu cymhorthdal o 100% i 50% ar gyfer un o gynlluniau blaenllaw Cymru o ran hybu swyddi.

Fe alwodd y Ceidwadwyr Cymreig hynny’n “ragrith”, ond pwysleisiodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth wedi hysbysu’r ACau mewn datganiad llafar am ei bwriad i addasu’r cynllun ar ddechrau mis Gorffennaf.

Esboniodd y llefarydd mai bwriad y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, ydy cyfuno Twf Swyddi Cymru â rhaglenni sgiliau eraill i greu un cynllun cyflogadwyedd yng Nghymru.

“Byddai’r rhaglen newydd yn cael ei deilwra i anghenion unigolion, yn cyd-fynd â chyfleoedd am swyddi mewn cymunedau lleol,” meddai.

Mae Twf Swyddi Cymru yn gynllun ar gyfer pobol ifanc rhwng 16 a 24 oed ac yn cynnig cyfle chwe mis mewn gwaith iddynt ar yr isafswm cyflog cenedlaethol.