Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan (Llun: Ben Birchall/PA)
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd Dr Barry Morgan yn ymddeol y flwyddyn nesaf fel Archesgob Cymru ar ôl bron i 14 mlynedd o wasanaeth.

Yn wreiddiol o Gwm Tawe, Dr Barry Morgan ydy’r gŵr i wasanaethu hiraf fel Archesgob Cymru pan gafodd ei benodi yn 2003 i olynu Dr Rowan Williams a ddaeth yn Archesgob Caegaint.

Mae hefyd wedi bod yn Esgob am 24 mlynedd, a hynny yn Llandaf ac ym Mangor, a bydd yn ymddeol ym mis Ionawr wrth ddathlu ei ben-blwydd yn 70 oed.

Cyfnod o newidiadau

Yn ystod ei gyfnod fel Archesgob Cymru, bu wrth wraidd hyrwyddo nifer o newidiadau i’r Eglwys yng Nghymru gan gynnwys rhoi’r hawl i ferched gael eu hordeinio’n esgobion.

Bu ganddo hefyd rôl amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru, gan ymgyrchu am setliad datganoli teg i Lywodraeth Cymru.

“Bu’n fraint enfawr gwasanaethu fel Archesgob Cymru ac Esgob Llandaf ac i wneud hynny mewn cyfnod mor bwysig ym mywyd Cymru,” meddai Dr Barry Morgan.

“Dros y blynyddoedd gwelais Gymru yn tyfu mewn hunanhyder fel cenedl ac rwy’n awr yn obeithiol iawn y caiff hyn ei feithrin a’i gyfoethogi gyda chefnogaeth barhaus yr Eglwys yng Nghymru.”

Ychwanegodd fod y flwyddyn hon wedi bod yn galed iddo ar ôl colli ei wraig Hilary i ganser yn gynharach eleni.

‘Gwas rhyfeddol’

Wrth gyhoeddi’r ymddeoliad mae Archesgob Caergaint, Prif Weinidog Cymru ac Esgob Abertawe ac Aberhonddu wedi talu teyrnged iddo.

Dywedodd Justin Welby, Archesgob Caergaint: “Bu Barry yn was rhyfeddol i’r lleoedd hynny lle gweinyddodd, i’r Eglwys yng Nghymru a’r holl Gymun Anglicanaidd. Byddwn yn gweld ei golli yn fawr iawn.”

Ychwanegodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: “Cafodd effaith mor gadarnhaol ar fywydau cynifer o bobol o gymunedau crefyddol Cymru ac mae wedi annog sefydlu cysylltiadau cymunedol da ar draws y wlad.”

A dywedodd John Davies, Esgob Abertawe ac Aberhonddu: “Mae Barry yn ddi-os yn ddyn sydd â barn gref a daliadau Cristnogol clir.

“Y mae, o safbwynt Cristnogol a dyniaethol, wedi hyrwyddo achosion hawliau menywod, cydraddoldeb rhwng y rhywiau a chyfiawnder cymdeithasol, ac nid oedd yn ofni codi ei lais yn gyhoeddus ar y materion hyn a llawer o rai eraill.”