Cwmni bysys GHA Coaches, yn Wrecsam
Mae’r broses o werthu bysus y cwmni o Wrecsam aeth i’r wal fis diwethaf yn dechrau’r wythnos hon.

Mae disgwyl i 200 o fysus gael eu gwerthu mewn arwerthiannau ar-lein wedi eu trefnu gan y gweinyddwyr Grant Thornton.

Fe gafodd y cwmni o Riwabon ger Wrecsam, GHA Coaches, ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ar Orffennaf 14 eleni gyda mwy na 300 o bobol yn colli eu swyddi.

Bydd yr arian sy’n cael ei godi o’r arwerthiannau yn mynd yn ôl i dalu dyledion y cwmni, ac mae disgwyl arwerthiannau pellach ym mis Hydref a Thachwedd.

Gwasanaeth

 

Roedd GHA Coaches yn cynnal gwasanaethu ar y ddwy ochr o Glawdd Offa gan gynnwys awdurdodau lleol Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy a Gwynedd.

Roedd gwasanaeth bws Traws Cymru rhwng Y Bermo a Wrecsam, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, hefyd yn cael ei redeg gan GHA.