Llys Ynadon Caerdydd Llun: PA
Mae dyn 23 oed wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio dynes yng Nghaerdydd.

Cafodd Jordan Matthews ei arestio ddydd Gwener, 19 Awst yn dilyn marwolaeth Xixi Bi, 24, mewn eiddo yn Heol Trelái, Llandaf.

Roedd Heddlu De Cymru wedi derbyn adroddiadau bod dynes yn cael trafferthion anadlu am 8.26yb ond bu farw yn y fan a’r lle.

Fe fu Jordan Matthews gerbron Llys Ynadon Caerdydd heddiw ac mae disgwyl iddo fynd gerbron Llys y Goron Caerdydd yfory.

Mae teulu Xixi Bi, sy’n byw yn China, wedi cael eu hysbysu am ei marwolaeth ac mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.