Amina Al-Jeffery, Llun: PA
Mae merch 21 oed o Abertawe sy’n honni ei bod wedi’i ‘charcharu gan ei thad yn Sawdi Arabia’ dal heb ddychwelyd i’r DU.

Daw hyn er gwaethaf gorchymyn gan farnwr yn yr Uchel Lys yn Llundain ar Awst 3 yn gorchymyn y dylai tad Amina Al-Jeffery, yr academydd Mohammed Al-Jeffery, sicrhau ei bod yn dychwelyd yn ddiogel i Brydain erbyn 4pm, Medi 11.

Ond, mae’r cyfreithiwr sy’n cynrychioli’r ferch wedi dweud heddiw nad yw Amina Al-Jeffery wedi dychwelyd hyd yn hyn.

Cefndir

Cafodd Amina Al-Jeffery ei magu yn Abertawe, ac mae ganddi ddinasyddiaeth ddwbl ym Mhrydain a Sawdi Arabia.

Fe gafodd ei hachos ei gyfeirio at yr Uchel Lys wedi iddi honni bod ei thad wedi ei chloi yn ei hystafell am iddi “gusanu dyn.”

Yn yr Uchel Lys ar ddechrau’r mis, dywedodd y barnwr bod yr achos yn un “anarferol iawn,” gan ddod i’r casgliad bod rhyddid Amina Al-Jeffery “wedi ei gyfyngu.’

Clywodd yr Uchel Lys hefyd fod y ferch a’i theulu wedi gadael Abertawe am Sawdi Arabia bedair blynedd yn ôl.