Becky James (Llun: Chwaraeon Cymru)
Mae ffrae wedi codi ei phen heddiw am ddylanwad llwyddiannau’r athletwyr yn y Gemau Olympaidd ar y cyhoedd yng Nghymru.

Fe awgrymodd Aelod Cynulliad Llafur Llanelli, Lee Waters, bod y pwyslais ar ennill medalau mewn pencampwriaethau fel y Gemau Olympaidd ‘yn peryglu chwaraeon ar lawr gwlad.’

Ond, mae Russell George ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, wedi ymateb gan ddweud nad ydy’r ddadl honno’n dal dŵr, gan droi’r bai ar gynghorau Llafur sy’n “codi ffioedd meysydd chwarae cyhoeddus.”

‘Dylanwadu ar y genhedlaeth nesaf’

“Mae cyllid y Loteri wedi bod yn fantais fawr i gyfleusterau chwaraeon ar draws y DU, ac mae ei ddadansoddiad yn anwybyddu’r effaith fawr y mae ein harwyr o fyd y campau yn ei gael wrth ddylanwadu ar y genhedlaeth nesaf o sêr,” meddai Russell George.

“Does ond angen edrych ar ddylanwad llwyddiant Bradley Wiggins yn y seiclo yn 2012, heb sôn am ddychmygu wedyn beth allai llwyddiant Laura Trott a Becky James yn Rio eleni ei gael ar gyfer beicio yn y dyfodol,” ychwanegodd.

Yn Rio eleni, fe gafwyd y perfformiad gorau erioed gan athletwyr o Gymru wrth iddyn nhw guro eu record eu hunain a chipio deg medal, pedwar ohonynt yn aur.

Mewn ymateb i’r sylwadau, dywedodd Chwaraeon Cymru eu bod yn buddsoddi mwy mewn chwaraeon cymunedol nag y maen nhw’n ei fuddsoddi i ddatblygu athletwyr proffesiynol.