Mae dyn 23 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dynes yng Nghaerdydd.

Cafodd y dyn ei arestio yn dilyn marwolaeth Xixi Bi, 24, mewn eiddo yn Heol Trelai, Llandaf ddydd Gwener.

Roedd Heddlu De Cymru wedi derbyn adroddiadau bod dynes yn cael trafferthion anadlu am 8.26yb ond bu farw yn y fan a’r lle.

Mae disgwyl i’r dyn fynd gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.

Mae teulu Xixi Bi, sy’n byw yn China, wedi cael eu hysbysu am ei marwolaeth ac mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.