Llun: PA
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Llywodraeth Cymru gan honni eu bod wedi cyflwyno “toriadau cudd” i un o gynlluniau blaenllaw Cymru o ran hybu swyddi.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r Llywodraeth wedi haneru’r cymhorthdal yr oedd yn ei gynnig i’r cynllun Twf Swyddi Cymru o 100% i 50% – a hynny heb ymgynghori â’r cyhoedd nac Aelodau’r Cynulliad.

“I ddweud y gwir mae’n warthus bod penderfyniad o’r maint hwn yn gallu cael ei wneud heb y cwrteisi o roi gwybod i’r cyhoedd nag aelodau etholedig,” meddai Russell George, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi.

‘Rhagrith’

Mae Twf Swyddi Cymru yn gynllun ar gyfer pobol ifanc rhwng 16 a 24 oed ac yn cynnig cyfle chwe mis mewn gwaith iddynt ar yr isafswm cyflog cenedlaethol.

Mae’n cael ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth Cymru a chronfa Gymdeithasol Ewrop, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o “ragrith” yn eu penderfyniad i dorri’r gyllideb.

“Un funud mae’r economi mewn perygl difrifol oherwydd Brexit, a nawr rydym yn cael gwybod bod yn rhaid gwneud toriadau o 50% i gynllun creu swyddi blaenllaw am fod y cwmnïau’n gwneud yn rhy dda,” meddai Russell George.

“Nid yw’n anghyffredin i Lywodraeth Cymru wneud cyhoeddiadau mawr drwy ddatganiadau ysgrifenedig, ond mae hyn yn mynd â’u hanhyblygrwydd i lefelau newydd,” meddai wedyn.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Llywodraeth Cymru.