Kirsty Williams Llun: Gwefan y Dems Rhydd
Mewn cynhadledd yng Nghaerfyrddin heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn llunio argymhellion i’w cyflwyno i’r Ysgrifennydd Addysg ar sut i fynd ati i ddiogelu dyfodol ysgolion gwledig Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas, Bethan Williams, eu bod am bwyso ar Kirsty Williams i ystyried effaith addysg mewn ysgolion gwledig wrth iddi fwrw ymlaen â pholisïau addysg y dyfodol.

“Rydyn ni’n gobeithio bydd hi’n ystyried mesurau newydd i ddiogelu addysg wledig, yn hytrach na chau’r ysgolion bach,” meddai wrth golwg360.

“Dyma’r tro cyntaf inni gael Ysgrifennydd Addysg sy’n dod o ardal wledig felly efallai mai dyma’r cyfle gorau i bwyso am newid am ei bod yn deall y sefyllfa ychydig yn well.”

Bancffosfelen

Un enghraifft y bydd y Gymdeithas yn tynnu arni ydy cynlluniau Ysgol Gymunedol Bancffosfelen ger Llanelli sydd wedi wynebu gorfod cau ers rhai blynyddoedd.

Mae’r gymuned leol ym Mancffosfelen yn ystyried sefydlu ymddiriedolaeth i brynu’r adeilad a’i rentu i’r Cyngor Sir fel ysgol wedi hynny.

“Mae’n syniad addawol iawn, ac fe allai fod yn beilot ar gyfer ardaloedd eraill yng Nghymru,” meddai Bethan Williams.

“Mae’n rhywbeth hollol newydd a hollol arloesol, ac rydym yn galw ar yr Ysgrifennydd i ystyried opsiynau ehangach yn hytrach na chau’r ysgolion bach.”

Cefndir

Mae ysgolion gwledig Cymru wedi bod o dan y chwyddwydr yn ddiweddar wedi penderfyniad ‘hanesyddol’ yn yr Uchel Lys yn gynharach y mis hwn.

Fe gafodd Cyngor Sir Ddinbych eu beirniadu’n chwyrn am fethu ag ymgynghori’n ddigonol ynglŷn â chau dwy ysgol wledig yn Nyffryn Clwyd ac am effaith hynny ar yr iaith Gymraeg.

Wedi hynny, fe wnaeth y Cynghorydd Alwyn Gruffydd o Dremadog  awgrymu fod Cyngor Gwynedd hefyd wedi methu â chynnal asesiadau trwyadl am effaith tymor hir cau ysgolion gwledig ar gymunedau Cymraeg.